S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tri enwebiad rhyngwladol i S4C

26 Tachwedd 2009

  Mae tair o raglenni plant S4C wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau rhyngwladol yn KidScreen, cynhadledd deledu plant mwyaf blaenllaw'r byd, sy’n cael ei chynnal yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 2010.

Daw’r newyddion wrth i S4C ddathlu enwebiadau o fewn y diwydiant ym Mhrydain. Mae gwasanaeth meithrin Cyw wedi ei enwebu yn y categori Sianel y Flwyddyn yng Ngwobrau Plant BAFTA - a gynhelir nos Sul - tra bod y ffilm Rhestr Nadolig Wil hefyd wedi ei henwebu yn y categori Drama.

Mae tri o gynyrchiadau plant S4C wedi eu henwebu mewn tri chategori gwahanol yng ngwobrau cyntaf KidScreen. Roedd dau o’r cynyrchiadau yn uchafbwyntiau amserlen Nadolig 2008 S4C.

Mae’r ffilm deuluol, Rhestr Nadolig Wil, sy’n gynhyrchiad Boomerang ar gyfer S4C, wedi ei henwebu am y Rhaglen Unigol, Arbennig neu Ffilm Deledu Orau yn y categori Tweens/Teens.

Mae’r ffilm animeiddiedig, Nadolig Plentyn yng Nghymru, sy’n gynhyrchiad ar y cyd rhwng Cwmni Da a Brave New World i S4C, hefyd wedi ei henwebu. Mae’n seiliedig ar un o weithiau mwyaf poblogaidd y bardd Dylan Thomas, A Child’s Christmas in Wales. Cyfarwyddwr y ffilm oedd yr animeiddiwr nodedig Dave Unwin, a chafodd y ffilm ei lleisio gan Matthew Rhys. Mae wedi ei henwebu yn y categori Teulu - Y Gyfres Animeiddiedig Orau.

Mae’r gyfres ddrama i blant, Rownd a Rownd, sy’n cael ei ffilmio ar leoliad yng ngogledd Cymru gan gwmni cynhyrchu Rondo Media, yn ceisio am wobr yn y categori Teulu – Cyfres heb ei hanimeiddio.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson: “Mae rhaglenni gwreiddiol, llawn dychymyg, wrth galon gwasanaeth plant S4C. Mae’r enwebiadau ar gyfer gwobrau KidScreen, ar draws ystod o gategorïau, yn gydnabyddiaeth ryngwladol o’r hyn mae S4C a chynhyrchwyr rhaglenni yn ei gyflawni. Yn dilyn enwebiadau Gwobrau Plant BAFTA hefyd, maen nhw’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarlledu rhaglenni plant o’r safon uchaf.”

Mae cynhadledd KidScreen yn cael ei hystyried yn ddigwyddiad pwysig o fewn y diwydiant. Mae’n disgwyl denu 1400 o ymwelwyr o 40 o wledydd yn 2009, ac mae’r gwobrau KidScreen newydd wedi denu enwebiadau o bob cwr o’r byd.

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

• Mae S4C wedi derbyn dau enwebiad yn Ngwobrau Plant BAFTA – mae’r gwasanaeth meithrin Cyw wedi ei enwebu yn y categori Sianel y Flwyddyn a Rhestr Nadolig Wil yn y categori Drama.

• Mae S4C wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei chynlluniau i ymestyn ei darpariaeth ar gyfer yr ystod oedran saith-arddegau cynnar, gyda rhaglenni ychwanegol ar y penwythnosau. Bydd S4C yn cyhoeddi tendr am wasanaeth i bobl ifanc 13+ yn y Flwyddyn Newydd.

• Mae S4C wedi gwerthu ei rhaglenni plant i ragor na 100 o wledydd ledled y byd.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?