S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyflwyno sylwebaeth chwaraeon Saesneg ar y botwm coch

15 Gorffennaf 2008

    Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd y sianel yn darparu sylwebaeth yn yr iaith Saesneg yn ychwanegol at y darllediadau Cymraeg ar ddetholiad o’i harlwy chwaraeon pan fo hawliau’n caniatáu.

Bydd y gwasanaeth newydd ar gael drwy’r botwm coch ar blatfformau dethol. Bydd y prif drac sain teledu yn parhau yn y Gymraeg.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ariannu gan gyllid masnachol S4C ac nid y cyllid cyhoeddus sy’n ariannu’r cynnwys Cymraeg ei iaith.

Bydd holl ddarllediadau rygbi a phêl-droed domestig y sianel yn darparu sylwebaeth Saesneg ar blatfformau dethol.

• Pêl-droed - gemau Uwch Gynghrair Cymru y Principality, gemau Cwpan Cymru ac uchafbwyntiau gemau gartref rhyngwladol Cymru.

• Rygbi’r Undeb - gemau byw o’r Cynghrair Magners, Cwpan Swalec a Chynghrair y Principality.

• Rygbi’r Cynghrair – gemau’r Celtic Crusaders.

Pan fo hawliau’n caniatáu, bydd y gwasanaeth newydd ar gael ar ddarllediadau chwaraeon ar-lein y sianel, ar s4c.co.uk.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C: “Mae S4C yn ddarlledwr Cymraeg sydd wedi’i ymrwymo i ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth newydd yn atgyfnerthu apêl ac argaeledd S4C ymhlith y nifer fawr o wylwyr di-Gymraeg sy’n gwylio’n rhaglenni, yn enwedig ein harlwy chwaraeon sylweddol.”

Cyhoeddir tendr i ddarparu’r gwasanaeth newydd ar wefan S4C, s4c.co.uk.

Mae gwasanaeth is-deitlau Saesneg eisoes yn cael ei ddarparu gan S4C.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?