S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynegi ei chefnogaeth i S4C

31 Gorffennaf 2010

    Mynegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ei chefnogaeth lwyr i S4C heddiw (Sadwrn, 31 Gorffennaf) yn ystod ymweliad â phafiliwn y sianel ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy.

Ar ôl cyfarfod â Phrif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen, ac aelod o Awdurdod S4C, Winston Roddick, dywedodd Cheryl Gillan bod y trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol.

Dywedodd ei bod yn credu bod S4C yn unigryw ac yn rhan bwysig o ddarlledu yng Nghymru gan wneud cyfraniad hollbwysig i ddiwylliant ac i’r iaith Gymraeg. Ychwanegodd ei bod yn ffyddiog bod y sianel yn cymryd camau i sicrhau’r dyfodol ac i symud ymlaen mewn ffordd bositif.

Dywedodd Arwel Ellis Owen, “Roedd y cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn hynod o adeiladol ac mae’n dda cael ei chefnogaeth bersonol hi i apwyntiad yr Awdurdod. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfodydd pellach gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn fuan.”

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?