S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Awdurdod S4C yn cyhoeddi newid yn strwythur y Sianel

29 Gorffennaf 2010

 Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi newid yn strwythur S4C a fydd yn arwain at gydweithio agosach rhwng yr Awdurdod a thîm rheoli’r Sianel.

Daw’r cyhoeddiad heddiw (dydd Iau, 29 Gorffennaf) yn dilyn ymadawiad Prif Weithredwr S4C, Iona Jones.

Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod John Walter Jones y bydd Awdurdod S4C, sef y corff sy’n goruchwylio perfformiad y Sianel, yn cydweithio’n agos gyda thîm rheoli llai ei faint.

Datgelodd mai’r pedwar aelod o’r tîm rheoli fydd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol a Kathryn Morris, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol a fydd bellach yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifo.

Mae bwriad gan yr Awdurdod i hysbysebu am Brif Weithredwr newydd i arwain y tîm rheoli maes o law.

Fe bwysleisiodd hefyd y byddai S4C yn gweithio’n agosach gyda chwmnïau’r sector annibynnol er mwyn sicrhau dyfodol cadarn i’r Sianel a’r darparwyr rhaglenni.

Mae cyfarfodydd eisoes wedi dechrau gyda nifer o benaethiaid y cwmnïau cynhyrchu a bwriedir cynnal cyfarfodydd gyda’r holl gwmnïau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Meddai John Walter Jones: “Er mwyn sicrhau dyfodol cadarn ac effeithiol i’r Sianel, y newid sylfaenol yw bod y syniad o ‘arwahanrwydd’ rhwng Awdurdod S4C a’r tîm rheoli wedi dod i ben. Un corff unedig ydi S4C a bydd y corff hwn yn rheoli ac yn gofalu am fuddiannau gwylwyr S4C a chyflenwyr rhaglenni’r Sianel yn y dyfodol.”

“Mae strwythur y tîm rheoli hefyd yn newid, gyda thîm llai o bedwar swyddog yn gweithio’n agos gydag aelodau’r Awdurdod. Fe fyddwn yn gweithio’n agos gyda’n gilydd i sicrhau sefydlogrwydd S4C ac i gryfhau’r bartneriaeth rhwng S4C a’r holl ddarparwyr rhaglenni.

“Mae dyfodol y Sianel yn sicr ond mae yna sawl her yn ein hwynebu mewn cyfnod anodd i’r sector gyhoeddus. Rwy’n hyderus ein bod mewn sefyllfa gadarn i wynebu her o gryfhau’r Sianel yn yr oes newydd gwbl ddigidol.”

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?