S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Awdurdod S4C yn penodi Prif Weithredwr dros dro

30 Gorffennaf 2010

  Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi bod Arwel Ellis Owen wedi ei benodi’n Brif Weithredwr y Sianel dros dro.

Fe fydd Arwel Ellis Owen yn dechrau ar ei waith ar unwaith ac yn pontio’r cyfnod hyd nes y penodir Prif Weithredwr parhaol.

Dywed John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Fe fydd profiad helaeth Arwel ym maes darlledu yn gaffaeliad mawr mewn cyfnod o bwysau mawr ar y Sianel ac yn sicrhau parhad a sefydlogrwydd. Bydd yn dechrau yn y swydd ar unwaith, gan gydweithio â’r Awdurdod a’r staff.”

Dywedodd Arwel Ellis Owen ei fod yn falch o gael y cyfle i arwain y Sianel drwy’r misoedd nesaf a’i fod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r sector gynhyrchu a meithrin cysylltiad agos gyda gwylwyr S4C.

“Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle gwych i mi a staff S4C i gynnal trafodaeth gyda gwylwyr a chyflenwyr rhaglenni am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw,” meddai Arwel Ellis Owen.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?