S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2009

12 Gorffennaf 2010

 Mae Awdurdod S4C wedi cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol 2009 gerbron y Senedd.

Yn ôl Cadeirydd S4C, John Walter Jones, mae’r adroddiad yn adlewyrchu gweithgaredd S4C i sicrhau bod y newid i ddigidol wedi digwydd yn ddirwystr a’r sianel nawr yn un gwbl Gymraeg.

Ychwanegodd, “Er mai sianel Gymraeg ei hiaith yw S4C bellach nid sianel ar gyfer y Gymraeg eu hiaith yn unig yw hi. Cawn dystiolaeth gyson o’r gwerth atodol mae dysgwyr ac eraill yn ei gael o gyfeiriad S4C. O’r gwasanaeth is-deitlo i’n safleoedd gwe rydym yn sicrhau fod mynediad a mwynhad ar gael i bawb.

“Mae’r ffaith bod dros filiwn o bobl wedi gwylio’n darpariaeth o ddigwyddiadau bach a mawr yn 2009 yn galondid ac yn dangos gwerthfawrogiad ein gwylwyr o’r ystod o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru sy’n cael eu hadlewyrchu ar S4C yn flynyddol.”

Gellir lawrlwytho copi o’r adroddiad o: http://www.s4c.co.uk/abouts4c/annualreport/

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?