S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gweithwyr S4C ar gefn eu beic er budd elusen

16 Medi 2010

Y penwythnos hwn, bydd criw o weithwyr S4C yn seiclo o swyddfeydd y Sianel yng Nghaernarfon i’r pencadlys yng Nghaerdydd er mwyn codi arian er budd elusennau.

Ar fore Gwener 17 Medi, bydd y criw o 13 o feicwyr yn dechrau eu taith faith drwy galon Cymru, gan obeithio cyrraedd y swyddfeydd yn Llanisien, Caerdydd nos Lun, 20 Medi. Dros 200 milltir mewn pedwar diwrnod - mae’n dipyn o dasg.

Bydd y criw yn codi arian yn unigol tuag at elusennau sy’n agos at eu calon, ac fel grŵp yn gobeithio casglu swm sylweddol o arian er budd Canolfan Canser Felindre. Mae’r ganolfan yn cynnig triniaeth canser i dros hanner cleifion canser Cymru ac yn gefnogaeth hanfodol i deuluoedd cleifion sy’n dioddef.

Arwyn Rawson-Thomas, Trefnydd Cynllunio S4C, sy’n gyfrifol am drefnu’r her.

“Roeddwn i’n awyddus i drefnu digwyddiad fyddai’n her ac yn gyfle i godi arian er budd elusen. Mae 200 milltir mewn pedwar diwrnod yn dasg a hanner, ac er mor flinedig y byddwn ni gyd erbyn cyrraedd pen y daith nos Lun, dwi’n credu y bydd y profiad yn rhywbeth y gallwn ni gyd fod yn falch iawn ohono.”

Mae’r criw wedi cymryd diwrnodau o wyliau personol er mwyn cwblhau’r dasg, ac mae holl gostau’r daith - y gwestai a’r drafnidiaeth i’r gogledd - wedi ei dalu o’u pocedi eu hunain.

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?