S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio rhaglen Sgorio brynhawn Sadwrn

05 Awst 2010

    Bydd y gyfres Sgorio yn darlledu gêm fyw bob prynhawn dydd Sadwrn ar S4C fel rhan o raglen gyffrous fydd hefyd yn rhoi gwasanaeth canlyniadau cynhwysfawr o’r byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Uwch Gynghrair Barclays a chynghreiriau’r Npower yn Lloegr.

Fe fydd y rhaglen yn cynnig gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru, sydd nawr ar ei newydd wedd gyda 12 tîm yn unig yn cystadlu am y teitl.

Ond yn ystod y rhaglen hefyd fe fydd modd i wylwyr wybod trwy’r gwasanaeth canlyniadau newydd ar y sgrin sut hwyl mae’r timau i gyd yn ei gael, o Manchester United a Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr, Caerdydd ac Abertawe yn Y Bencampwriaeth, Wrecsam, Casnewydd a Bae Colwyn yn y Blue Square a thimau’r cynghreiriau yng Nghymru.

Mae Sgorio hefyd yn croesawu aelod newydd i’r tîm, y sylwebydd a’r gohebydd profiadol sy'n gefnogwr pêl-droed brwd, Dylan Ebenezer.

Fe fydd Dylan yn ymuno ag Alun Williams, Morgan Jones a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol, Malcolm Allen a John Hartson, fel rhan o dîm Sgorio.

Bydd cyfle i wylwyr sy’n methu’r gemau'n fyw wylio gwasanaeth ar-alw S4C ar y We, s4c.co.uk/clic. Gall gwylwyr di-Gymraeg hefyd ddewis gwylio gyda sylwebaeth Saesneg trwy wasgu’r botwm coch ar blatfform Sky yn unig.

Bob nos Lun, bydd Malcolm Allen a John Hartson yn cyflwyno uchafbwyntiau llawn o gemau Uwch Gynghrair Cymru dros y Sul ac uchafbwyntiau cynghreiriau Sbaen a’r Eidal.

Gallwch hefyd ddilyn ymgyrch ddiweddaraf tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru yng gemau rhagbrofol Ewro 2012. Bydd y cyfan yn dechrau gyda gêm fyw rhwng Cymru a Montenegro ym mis Medi.

Ond cyn hynny, bydd uchafbwyntiau gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Lwcsembwrg o Barc y Scarlets, Llanelli, ar S4C nos Fercher 11 Awst wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gemau rhagbrofol.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae S4C yn ymfalchïo yn ei rôl fel cartref digwyddiadau byw o ddiddordeb Cymreig ac mae ein darllediadau cynhwysfawr o chwaraeon ar bob lefel yng Nghymru yn adlewyrchu hyn.

“Mae arlwy estynedig Sgorio eleni yn dangos ymroddiad parhaus S4C i bêl-droed Cymru trwy bartneriaeth y Sianel â Chymdeithas Pêl-droed Cymru. Bydd ein tîm arbenigol o gyflwynwyr a sylwebwyr ar Sgorio yn cynnig y dadansoddi gorau posibl o berfformiadau ein timau yng Nghymru a Phrydain ac yn rhyngwladol."

Cynhyrchir Sgorio ar gyfer S4C gan Rondo Media. Mae gwefan gynhwysfawr yn cyd-fynd â’r gwasanaeth teledu: s4c.co.uk/sgorio.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?