S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi arlwy gyffrous o gemau byw Magners

06 Awst 2010

  Mae S4C wedi cyhoeddi arlwy gyffrous o gemau byw ar gyfer rowndiau agoriadol y Cynghrair Magners 12-clwb newydd.

Bydd Y Clwb Rygbi yn dechrau gyda darllediad byw o gêm y Gleision v Caeredin o Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn 4 Medi.

Mae’r rhaglen, a fydd yn dechrau ychydig yn gynt na’r arfer am 17:55, yn cynnwys munudau cynnar y gêm hanesyddol rhwng y clwb o’r Eidal, Treviso a’r Scarlets. Bydd uchafbwyntiau gêm gyntaf y clwb Eidalaidd yn y Magners i’w gweld ar ôl y gêm rhwng y Gleision a Chaeredin.

Y gemau byw ar S4C yn yr wythnosau dilynol fydd Leinster v Gleision ddydd Sadwrn 11 Medi, Gleision v Dreigiau ddydd Sadwrn 18 Medi a’r gêm fyw lawn gyntaf sy’n cynnwys tîm o’r Eidal, Gweilch v Aironi ar 25 Medi.

Bydd y rhan fwyaf o’r gemau byw yn dechrau am 18:30 ar nosweithiau Sadwrn, gydag isdeitlau Saesneg ar gael a sylwebaeth Saesneg ar Sky.

Gemau eraill a fydd o ddiddordeb arbennig yn yr wythnosau cynnar fydd y gêm ddarbi rhwng y Scarlets a'r Gweilch ar 2 Hydref, y ddwy gêm ar benwythnos 23 a 24 Hydref wrth i’r Dreigiau herio Aironi a Glasgow wynebu’r Gweilch a’r gemau darbi amser Nadolig, sef Gweilch v Scarlets ar Ŵyl San Steffan a Scarlets v Dreigiau ddydd Calan.

Bydd tîm cyflwyno Y Clwb Rygbi mor gryf ag erioed ac yn cynnwys y prif gyflwynydd Gareth Roberts, y gohebydd Sarra Elgan a chyn chwaraewyr rygbi rhyngwladol fel Gwyn Jones, Brynmor Williams a Derwyn Jones ymhlith eraill.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Chwaraeon, S4C: “Mae’r Cynghrair Magners yn parhau i ddatblygu a gwella bob blwyddyn ac rydym yn falch o gael bod yn un o ddarlledwyr y gystadleuaeth. Y tymor diwethaf, fe gyflwynwyd y gemau ail gyfle ac eleni ychwanegwyd dau glwb o’r Eidal i’r cynghrair, datblygiad a fydd yn cynyddu’r diddordeb hyd yn oed yn fwy. Rydym yn falch o gyhoeddi ein hamserlen gyffrous o gemau byw ar gyfer wythnosau cynnar y tymor.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?