S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadeirydd S4C yn galw am gydweithredu er lles darlledu yn yr iaith Gymraeg

11 Awst 2010

   

Rhaid cydweithredu er lles darlledu yn yr iaith Gymraeg - dyna oedd neges glir Cadeirydd S4C, John Walter Jones, mewn anerchiad yn Sioe Môn.

“Mae’n rhaid i ni weithio fel un er mwyn sicrhau dyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg,” meddai Mr Jones ac ychwanegodd, “Nod S4C yw hyrwyddo cydweithrediad a sefydlogrwydd yn y sector gynhyrchu annibynnol wrth i ni wynebu dyfodol ariannol heriol.

“Bydd amrywiaeth maint a phrofiad ymhlith y rhai sy’n cynhyrchu rhaglenni i S4C yn cael ei gydnabod wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Byddwn yn cwblhau ein trafodaethau gyda’r BBC ynglŷn â’n ail gytundeb partneriaeth strategol cyn bo hir gobeithio. Yn bersonol, hoffwn weld S4C a Radio Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i feithrin syniadau rhaglenni. Mae C’Mon Midffild yn enghraifft dda o gyfres radio wreiddiol yn cael ei datblygu i fod yn gyfres deledu wych. Hoffwn weld yr un math o ddatblygiad yn digwydd eto yn y dyfodol.”

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?