S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Croesawu Ysgrifennydd Cymru i set Rownd a Rownd

26 Awst 2010

     Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi croesawu ymweliad Ysgrifennydd Cymru â set ddrama Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn.

Yn ôl John Walter Jones fe gafodd Cheryl Gillan weld drosti hi ei hun y gwaith arbennig iawn sy’n cael ei wneud gan gwmni Rondo, sy’n cynhyrchu’r ddrama sebon i bobol ifanc a ddechreuodd 15 mlynedd yn ôl.

“Mae hyn yn un enghraifft o’r gwaith arloesol sy’n digwydd yng ngogledd Cymru,” meddai John Walter Jones. “Mae cynhyrchu drama sebon uchelgeisiol a llwyddiannus ar gyfer pobol ifanc yn bwysig iawn i S4C. Mae ’na 55 o bobol yn y cast – dros ugain ohonyn nhw dan 18 oed – y rhain ydi talent y dyfodol. Maen nhw’n cael cyfleoedd euraidd i ddatblygu sgiliau a thalentau a fydd o fudd mawr iddyn nhw ar adeg mor bwysig yn eu bywydau."

Ychwanegodd John Walter Jones bod ’na ddatblygiadau cyffrous eraill ar y gweill wrth i S4C gomisiynu amrywiaeth eang o raglenni newydd o ogledd orllewin Cymru. Mae hynny’n cynnwys drama arloesol gan gwmni Rondo wedi ei lleoli ym Mhen Llŷn.

Ychwanegodd bod Cwmni Da, sy’n cyflogi dros 60 o staff llawn amser yng Nghaernarfon a’r Felinheli, wedi bod wrthi’n paratoi nifer o gyfresi newydd ar gyfer y sianel, gan ychwanegu at y rhaglenni poblogaidd sydd eisoes yn cael eu cynhyrchu ganddyn nhw.

Mae cwmni cynhyrchu arall yn yr ardal, Antena, yn cyflogi 30 o bobol - pobol sydd, yn ôl y cwmni, yn ifanc, egnïol a brwdfrydig.

“Dwi’n bersonol yn edrych ymlaen yn fawr at weld rhaglen gan Antena fydd ar S4C yr wythnos nesa,” meddai, “rhaglen ddogfen am Barri Griffiths, y reslar chwe throedfedd a hanner a 21 stôn o Dremadog. Mi a’th o i America i ennill ei fara menyn fel reslar gyda’r WWE - y cwmni reslo mwya yn y byd.”

“Ac mae hynny’n enghraifft o’r amrywiaeth o raglenni sy’n cael eu paratoi gan gwmnïau annibynnol ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd sy’n gwylio ac yn mwynhau S4C,” meddai John Walter Jones.

diwedd

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?