S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Boris Johnson ac Alex Jones yn croesawu Cyw i Lundain

07 Medi 2010

 Mae Maer Llundain Boris Johnson a chyflwynydd The One Show Alex Jones wedi croesawu Cyw – wyneb hoffus gwasanaeth meithrin S4C – i’r ddinas ar ddydd Mawrth 7 Medi.

Daeth y cyfarfod rhwng y Maer a Cyw tu allan i’r Gyfnewidfa Stoc yn y ddinas cyn symud ymlaen i Ysgol Gymraeg Llundain, lle bu Alex a llu o wynebau adnabyddus arlwy’r gwasanaeth yn treulio’r bore yng nghwmni plant yr ysgol.

Roedd Alex, un o gyflwynwyr rhaglenni plant y Sianel, yn yr ysgol i ddathlu estyniad Cyw i’r penwythnosau.

Ers cael ei lansio ym Mehefin 2008, mae Cyw wedi cael ei hadnabod fel adnodd unigryw ym myd addysg i blant meithrin yng Nghymru – ac o fewn ysgolion fel Ysgol Gymraeg Llundain. Mae’r wybodaeth yma’n amlwg mewn gwaith ymchwil cyhoeddodd S4C yn 2009.

Esbonia Menna George, Prifathrawes Ysgol Gymraeg Llundain, “Does dim llawer o Gymraeg i’w glywed na’i ddarllen wrth fyw yng nghanol Llundain. Mae Cyw yn ffynhonnell werthfawr i’r disgyblion - mae’r natur hwyliog a’r elfen ryngweithiol ar-lein ac ar y teledu yn annog y plant i ddysgu heb iddynt sylweddoli eu bod yn dysgu. Byddwn ni’n defnyddio Cyw yn ein hysgol ni fel ffynhonnell ychwanegol wrth addysgu’r disgyblion.”

Roedd yr ymchwil yn dangos fod canran uchel o athrawon yn gweld rhaglenni a gwefan Cyw yn adnodd unigryw i’w ddefnyddio yn y dosbarth. Mae’n dangos hefyd fod y gwasanaeth wedi llwyddo i godi’r nifer o wylwyr a denu diddordeb ar y cyfryngau newydd yn ogystal ag ar sgrin.

“Mae hunaniaeth Gymraeg yn amlwg yn y rhaglenni sydd ar y gwasanaeth. Maen nhw’n wreiddiol ac yn berthnasol i fywyd bob dydd. Mae Cyw yn lledaenu’r neges fod yr iaith yn fyw,” meddai un rhiant.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae gan Cyw ddilyniant aruthrol ymysg plant meithrin a’u rhieni, ac mae hyn yn ffordd wych i’n gwylwyr ieuanc y tu hwnt i Gymru gael cyfle i gwrdd â Cyw wyneb yn wyneb cyn i’r gwasanaeth ehangach ddechrau ym mis Hydref.

“Mae S4C yn buddsoddi’n drwm ym maes darlledu plant ac mae safon y rhaglenni yn atgyfnerthu’r enw da sydd gan y Sianel a’r cynhyrchwyr annibynnol sy’n eu cynhyrchu.”

diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?