S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni S4C o ddigwyddiadau haf 2010 yn torri’r record

15 Medi 2010

 Mae bron miliwn a hanner o bobol wedi gwylio rhaglenni S4C o ddigwyddiadau’r haf yng Nghymru eleni – cannoedd o filoedd yn fwy na’r nifer wyliodd raglenni’r Digwyddiadau yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Bu 1.4 miliwn ar hyd y Deyrnas Unedig yn gwylio’r rhaglenni yn y gyfres Digwyddiadau ’10 a ddarlledwyd o 17 o achlysuron mawr a bach ar hyd a lled y wlad. Mae hyn yn gynnydd o 44% ar nifer gwylwyr Digwyddiadau ’09 ar S4C y llynedd.

Ac eleni hyd yma ar gyfartaledd mae 611,000 wedi gwylio oriau Cymraeg y Sianel yn wythnosol o’i gymharu â 534,000 am yr un cyfnod y llynedd - cynnydd o 77,000, neu 13%.

Mae ’na fwy o newyddion da wrth i’r nifer o sesiynau gwylio Clic ar y we godi’n sylweddol. Bu dros dros dri chwarter miliwn (780,000) o sesiynau gwylio ar-lein i raglenni S4C – mae hynny’n gynnydd o 324,000 – neu 71% - o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Wrth ymateb i’r cynnydd mawr yn nifer y bobol sy wedi gwylio’r rhaglenni o wahanol ddigwyddiadau ar draws Cymru, dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu y sianel mai “Mae’r ffigyrau yma yn rhoi cadarnhad eto mai S4C yw cartref digwyddiadau’r haf yng Nghymru i filoedd ar filoedd sy’n medru eu mwynhau heb fod yno eu hunain yn ogystal â rhai sy’n mynychu’r digwyddiadau a hefyd yn gwylio ar ein rhaglenni Digwyddiadau ’10.

“Mae’r ffaith bod bron miliwn a hanner o bobl wedi gwylio ein rhaglenni o’r gwyliau a’r digwyddiadau dros yr haf yn brawf o werthfawrogiad y gwylwyr o’n rhaglenni o’r ardaloedd a’r cymunedau ledled Cymru.”

Darlledwyd rhaglenni arbennig o ddigwyddiadau a gwyliau o Fôn i Gaerffili ac o Sir Benfro i Sir Ddinbych – digwyddiadau lleol fel Sioe Nefyn a Sadwrn Barlys tre’ Aberteifi i ddigwyddiadau cenedlaethol fel Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron, y Sioe Frenhinol Amaethyddol yn Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy.

Ac mae trefnwyr y digwyddiadau yn gwerthfawrogi cael sylw ehangach i’w hachlysuron drwy raglenni S4C. Meddai Elinor Roberts, sy’n trefnu Gŵyl Gobaith yn Fflint ar y cyd gyda Rhys Meirion, “Roedd y ffaith fod S4C wedi bod yn ffilmio Gŵyl Gobaith yn hynod o werthfawr i ni. Gyda’r ŵyl yn ei hail flwyddyn, roedd y rhaglen yn fodd arbennig o hyrwyddo’r digwyddiad, ac yn profi ei fod yn ddigwyddiad o bwys. Mewn ffordd, roedd yn rhoi hygrededd iddi. Soniodd amryw o bobl nad oedd wedi mynychu eleni eu bod yn sicr am fynychu'r flwyddyn nesaf.”

“Roedd yn wir fraint i’r digwyddiad gael ei dangos ar S4C eleni - mi roedd yn gyfle gwych i ni gael rhannu’r digwyddiad arbennig hwn, yr ardal a’i chymeriadau gyda gweddill y genedl,” meddai Eirian Lloyd Hughes, Ysgrifennydd Cyffredinol Sioe Nefyn.

Meddai Seimon Menai, un o drefnwyr gŵyl gerddorol unigryw Chwilog, ‘Chwilgig,’ “Mi roedd hi’n bleser cael cydweithio hefo S4C. Cafodd sawl band lleol sylw ar y rhaglen, sydd yn grêt achos dyna ydi un o brif amcanion yr ŵyl.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?