S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi darpariaeth S4C o’r Cwpan Ryder

13 Medi 2010

   S4C fydd y darlledwr daearol gyntaf i ddangos uchafbwyntiau dyddiol o Gwpan Ryder 2010 am 19:00 dros dridiau’r gystadleuaeth.

Bydd arlwy’r Sianel yn dechrau nos Fercher 29 Medi (21:30) wrth i dîm Golffio edrych ar baratoadau olaf timau Ewrop ac Unol Daleithiau America, y staff tu ôl i’r llenni a’r cefnogwyr cyn i’r bêl gyntaf gael ei tharo.

Ar noswyl y bencampwriaeth (Nos Iau 30 Medi 19:00), bydd rhaglen arbennig yn cynnwys uchafbwyntiau o Seremoni Agoriadol Cwpan Ryder.

Bob dydd rhwng dydd Gwener (1 Hydref) a dydd Sul (3 Hydref), bydd y darllediadau cynhwysfawr yn cynnwys y gorau o’r chwarae ar gwrs y Twenty Ten yn ystod y dydd. Mae’r rhaglenni 19:00 hefyd yn cynnwys dadansoddi a sgyrsiau arbennig gyda phanel o arbenigwyr, yn ogystal â chael cyhoeddi pwy fydd yn chwarae gyda'i gilydd ar y diwrnod canlynol.

Bydd rhaglenni gyda’r hwyr – yn cynnwys mwy o uchafbwyntiau a dadansoddi – yn cael eu darlledu’n fyw o’r Celtic Manor yn ystod tridiau’r gystadleuaeth.

Gareth Roberts, Rhodri Ogwen Williams, Llinos Lee a Dewi ‘Pws’ Morris yw’r cyflwynwyr fydd yn dod â chynnwrf ac awyrgylch y digwyddiad yn fyw i’r sgrin. Bydd golffwyr proffesiynol a chefnogwyr brwd y gamp yn cynnig eu sylwadau nhw ar y cystadlu, gan gynnwys Siôn Bebb, Louise Davis a Becky Brewerton.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae S4C yn ymfalchïo yn ei rôl fel cartref digwyddiadau byw o ddiddordeb Cymreig ac mae ein darllediadau cynhwysfawr o chwaraeon ar bob lefel yn adlewyrchu hyn. Rwy’n falch iawn o ychwanegu uchafbwyntiau dyddiol o’r Cwpan Ryder - un o ddigwyddiadau chwaraeon mwya’r byd - i’r ddarpariaeth gan griw profiadol Golffio.”

Meddai Rob Holt, Prif Weithredwr Cwpan Ryder 2010: “Trwy gydol y paratoadau, mae S4C wedi bod yn gefnogol iawn o brosiect Cwpan Ryder yng Nghymru. Maen nhw hefyd wedi noddi a chefnogi Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C am y pedair blynedd diwethaf. Wrth inni agosáu at y digwyddiad, rwy’n disgwyl y bydd arlwy arbennig Golffio yn rhan annatod o amserlen gwylio cefnogwyr chwaraeon brwd yng Nghymru.”

Mae S4C ar gael i’w wylio yng Nghymru ar Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 194 a Freesat 104. I wylwyr tu allan i Gymru, gallwch wylio ar Sky 134 a Freesat 120.

Diwedd

Amserlen Golffio a’r Cwpan Ryder:

Mercher 29 Medi

21:30 Golffio

Iau 30 Medi

19:00 Cwpan Ryder

Gwener 1 Hydref

19:00 Cwpan Ryder 23:05 Cwpan Ryder

Sadwrn 2 Hydref

19:00 Cwpan Ryder 22:40 Cwpan Ryder

Sul 3 Hydref

19:00 Cwpan Ryder 23:20 Cwpan Ryder

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?