S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw a’i ffrindiau ar daith Nadolig

24 Tachwedd 2010

Bydd Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau yn teithio i ddeuddeg lleoliad hudolus ledled y wlad yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i ddathlu’r Nadolig.

Pan mae Siôn Corn yn cael ei daro’n sâl, mae’r Nadolig yn sydyn mewn perygl! Mae’n troi at rai o wynebau mwyaf adnabyddus gwasanaeth Cyw i’w helpu, Sali Mali, Jac y Jwc, Huwi Stomp, Rapsgaliwn, Tigi a chyflwynwyr Cyw, Rachael a Trystan. Mae’r stori’n agor y drws i hwyl a halibalŵ, chwerthin, canu a dawnsio wrth iddynt gyd-weithio i geisio achub y diwrnod mawr.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae gwasanaeth meithrin Cyw ar S4C wedi mwynhau blwyddyn i’w gofio – ymestyn yr arlwy i benwythnosau, lansio ap Cyw, croesawu cyflwynwyr a chyfresi newydd a chael enwebiad BAFTA Plant Prydain yng nghategori Sianel y Flwyddyn eto eleni. Mae’r daith Nadolig yn uchafbwynt ar yr holl waith caled ac rwy’n siŵr bydd y daith yn gyfle arbennig i’r gwylwyr ieuengaf gwrdd â rhai o’u hoff gymeriadau yn y sioe fyw - gan gynnwys Cyw ei hun”

Bydd pris mynediad o £4.00 i bawb, yn blant ac oedolion, a bydd system o archebu tocynnau ymlaen llaw yn weithredol trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 (cost galwad cenedlaethol).

Am fwy o fanylion, ewch i s4c.co.uk/cyw

Dyma fanylion lleoliadau’r Daith:

Tachwedd 26 Neuadd y Dref, Maesteg

Tachwedd 27  Ysgol Uwchradd Aberteifi

Tachwedd 28 Ysgol y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin - DIM TOCYNNAU AR ÔL

Rhagfyr 3 Y Stiwt, Rhosllanerchrugog

Rhagfyr 4 Theatr John Ambrose, Rhuthun

Rhagfyr 5 Neuadd Dwyfor, Pwllheli - DIM TOCYNNAU AR ÔL

Rhagfyr 6 Neuadd Dyfi, Aberdyfi

Rhagfyr 9 Theatr y Congress, Cwmbran

Rhagfyr 10 Canolfan Wyeside, Llanfair-ym-Muallt - DIM TOCYNNAU AR ÔL

Rhagfyr 11 Ysgol Esgob Llandaf, Caerdydd – DIM TOCYNNAU AR ÔL

Rhagfyr 18 Theatr Elwy, Llanelwy

Rhagfyr 19 Galeri, Caernarfon – DIM TOCYNNAU AR ÔL

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?