S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

‘Dim Ond Un’ yn ennill cystadleuaeth Carol S4C!

22 Tachwedd 2010

 Carol gynnes, deimladwy sy’n datgan bod Stori’r Geni yn dal yn berthnasol i bobl heddiw sydd wedi ennill Cystadleuaeth Cyfansoddi Carol S4C eleni.

Cyfansoddwraig adnabyddus o bentref Talwrn, Ynys Môn, E Olwen Jones sydd wedi cipio’r wobr o £1,000 ac fe fydd ei charol fuddugol ‘Dim ond Un’ nawr yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghyngerdd Mil o Leisiau'r Nadolig ym Mhafiliwn Llangollen nos Sul, 12 Rhagfyr.

Fe fydd uchafbwyntiau’r noson, a drefnir ar y cyd rhwng S4C a phapur newydd y Daily Post, yn cael ei darlledu ar S4C nos Fercher, 21 Rhagfyr.

Mae’r tenor Wynne Evans, y trebl Rhys Meilyr a nifer o gorau lleol ymhlith y perfformwyr mewn noson a gyflwynir gan y darlledwyr Branwen Gwyn a Hywel Gwynfryn.

Yn gyn Bennaeth Adran Gerdd, Coleg Normal, Bangor a chyn athrawes gerdd deithiol, mae E Olwen Jones yn gyfansoddwraig adnabyddus sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau o ganeuon i blant ac oedolion.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill y wobr hon ac yn edrych ymlaen at y perfformiad cyntaf ar y noson ym Mhafiliwn Llangollen. Dyma’r tro cyntaf imi ennill cystadleuaeth cyfansoddi ac fe fwynheais y profiad o gyfansoddi’r garol, yr alaw a’r geiriau,” meddai E Olwen Jones,74 oed, Cymraes a gafodd ei magu yn Lerpwl, ond sydd wedi byw ar Ynys Môn ers dros 40 mlynedd.

“Carol draddodiadol sy’n ddwys ac yn dyner ar yr un pryd ydi ‘Dim ond Un’ ac mae’n sôn am holl ryfeddod Stori’r Geni, y doethion, y seren a’r Baban Iesu. Rwy’n credu bod Stori’r Geni yn berthnasol i gymdeithas heddiw ac mae’r garol yn mynegi hynny,” meddai E Olwen Jones, sydd yn brofiadol fel trefnydd alawon o bob math.

Meddai Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Mae E Olwen Jones yn gyfansoddwraig gydnabyddedig ac mae’r ffaith iddi gystadlu yn adlewyrchu pwysigrwydd y gystadleuaeth bellach.

“Mae’r gystadleuaeth yn ei 12fed flwyddyn bellach ac mae perfformiad cyntaf y garol bob amser yn un o uchafbwyntiau Cyngerdd Mil o Leisiau'r Nadolig. Fe fydd cryn edrych ymlaen at ddarlledu uchafbwyntiau’r gyngerdd ar S4C gan ei bod yn un o uchelfannau gwylio’r Nadolig ar S4C.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?