S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dangosiadau arbennig o ddrama newydd S4C

14 Ionawr 2011

Bydd y rheini sy’n mwynhau dramâu teledu yn Llandeilo, Bangor ac Aberhonddu yn cael cyfle unigryw i weld pennod gyntaf cyfres newydd S4C, Alys, diwrnodau cyn iddo ddarlledu ar y Sianel.

Alys yw'r ddrama ddiweddaraf gan yr awdures arobryn o Landeilo Siwan Jones ac mae’n stori am fam sengl sy’n fodlon gwneud unrhyw beth bron er mwyn gweld ei mab ifanc yn gwireddu ei freuddwyd o fod yn ddyn gofod.

Mae’r dangosiadau arbennig yn cychwyn yn Neuadd Ddinesig Llandeilo nos Lun 17 Ionawr am 19:30. Bydd nosweithiau tebyg yn cael eu cynnig yn Neuadd JP, Prifysgol Bangor (18 Ionawr) a Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 21 Ionawr.

Yn dilyn y dangosiad, bydd cyfle i’r gynulleidfa drafod y ddrama a gofyn cwestiynau i'r panel o arbenigwyr sy'n gysylltiedig â'r gyfres, gan gynnwys yr awdur Siwan Jones, y cynhyrchydd Paul Jones a’r brif actores o Ddyffryn Aman, Sara Lloyd Gregory, sy'n chwarae rhan Alys.

Enillodd Siwan Jones gwobr fawreddog Rose d'Or am ei chyfres ddiwethaf ar S4C, Con Passionate. Bydd Alys yn cael ei ddarlledu am 21:00 bob nos Sul o 23 Ionawr. Is-deitlau Saesneg ar gael hefyd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?