S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cân i Gymru 2011 – eich cyfle olaf

05 Ionawr 2011

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cân i Gymru 2011 yn prysur agosáu (7 Ionawr) felly dyma’r cyfle olaf ichi fentro i gystadlu.

Mae S4C yn gwahodd cyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2011, gyda chyfle i ennill lle yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn ogystal â gwobr ariannol o £7,500.

Bydd yr wyth cân sy'n cyrraedd rhestr fer y rheithgor o arbenigwyr yn perfformio'n fyw ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar S4C ar 6 Mawrth 2011.

Owen Powell yw Cadeirydd y Rheithgor ac yn ei gynorthwyo i ddarganfod yr wyth olaf fydd Gwenno Saunders, cantores The Pipettes; prif leisydd y Sibrydion, Meilir Gwynedd; Cleif Harpwood o fand eiconig y 70au Edward H.Dafis; a’r gantores gwerin amryddawn, Siân James.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan gyfansoddwyr ar ffurf CD, casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru: s4c.co.uk/canigymru. Mae'n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.

A ydych chi’n ysu am gyfle i gyfansoddi a dangos eich talent gyda lle yn y rownd derfynol yn y fantol? Ai eich cân chi fydd yn cael ei dewis i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd flwyddyn nesaf?

Am fwy o fanylion ar sut i gystadlu, cysylltwch ag Avanti ar 01443 688530 neu canigymru2010@avantimedia.tv

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?