S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffermio yn Croesawu Cyflwynydd Newydd

18 Ionawr 2011

Fe fydd cyflwynydd newydd yn ymuno â thîm gohebu’r gyfres boblogaidd Ffermio o ddydd Llun, 24 Ionawr (8.25pm) ymlaen.

Mae Meinir Jones o Gapel Isaac ger Llandeilo yn camu o flaen y camera am y tro cyntaf ar ôl pedair blynedd yn gweithio fel cyfarwyddwr ac ymchwilydd ar y gyfres amaeth a chefn gwlad.

Mae’n dilyn ôl traed Iola Wyn a ffarweliodd fel cyflwynydd ar y gyfres nos Lun 14 Ionawr ar ôl chwe blynedd fel aelod o’r tîm.

Mae Meinir, 25, yn ferch fferm o Fferm Maesteilo, Capel Isaac. Yn ogystal â gweithio ar Ffermio i gwmni cynhyrchu, Telesgôp yn Abertawe, mae’n gweithio ar y fferm defaid a bîff bob cyfle y caiff hi gyda’i rhieni Eifion a Doris Jones a’i brawd 21 oed, Eirian.

Mae Meinir yn edrych ymlaen yn arw at yr her o gyflwyno ar Ffermio – er yn cyfaddef ei bod ychydig yn nerfus.

“Mae Ffermio a chefn gwlad yn agos iawn at fy nghalon i ac felly fi wrth fy modd yn cael y cyfle i ohebu ar y gyfres Ffermio. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gwrdd â chymeriadau diri ledled y wlad, a sgwrsio â phobl sy’n angerddol am gefn gwlad,” meddai Meinir.

Mae Meinir yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd ac mae’n ddyledus iawn i’r mudiad am roi’r profiad a’r hyder iddi ym mhob agwedd ar ei bywyd.

“Dwi’n aelod o glwb Llanfynydd ers o’n i’n ddeg mlwydd oed, ac wedi derbyn cyfleon bythgofiadwy, yn ogystal â chreu ffrindiau oes. Mae’n sefydliad sy’n meithrin sgiliau mwyaf gwerthfawr bywyd i bawb sy’n dod i gysylltiad â’r mudiad,” esbonia Meinir.

“Trwy’r mudiad dwi wedi cael cyfle i feirniadu stôc, canu, actio, siarad yn gyhoeddus, coginio i hyd yn oed cneifio defaid! Wy wedi magu hyder i berfformio a chyflwyno ar lwyfan, a rhoi cynnig ar gystadlaethau bydden ni byth wedi meddwl trio heblaw am y clwb.”

Mae gan Meinir ddiadell ei hun o ddefaid Balwen Cymreig y mae hi’n mwynhau eu harddangos mewn amryw i sioe yn ystod yr haf.

Fe fydd y gwylwyr a welodd y gyfres Seren Bethlehem yn gyfarwydd â Meinir gan taw hi oedd yn chwarae rhan Mair yng nghynhyrchiad ym mhentref Bethlehem. Mae hi hefyd yn mwynhau perfformio fel rhan o ddeuawd canu o amgylch y wlad.

Mae nawr yn ffaelu aros am gyflwyno ei heitem gyntaf– stori ddifyr am sganio defaid yn Llansannan, ger Dinbych.

“Rwy’ eitha nerfus mae’n rhaid cyfadde’- ond dwi wedi cael pob help a chefnogaeth gan y criw yn Telesgôp a does dim gwell bywyd i gael na byw allan yn y wlad a chynhyrchu bwyd o safon!” ychwanegodd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?