S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

£4.5 miliwn i'r Diwydiannau Creadigol

25 Ionawr 2011

 Heddiw daeth cyhoeddiad cyffrous y bydd Skillset Cymru yn buddsoddi £4.5 miliwn i hyfforddi pobl yn y diwydiannau creadigol yn y Gorllewin a’r Cymoedd o dan y rhaglen Sgiliau yn yr Economi Ddigidol

Mae S4C yn bartner allweddol yn y buddsoddiad hwn ac mae hynny’n adlewyrchu ymroddiad y Sianel i sicrhau bod gan y sector cynhyrchu ledled Cymru’r sgiliau angenrheidiol i greu rhaglenni o’r safon uchaf ac ar flaen y gad yn y diwydiant cyfryngau.

Dyma’r datganiad a gyhoeddwyd gan Skillset Cymru, cangen Cymru o Skillset, sef Cyngor Sgiliau Sector diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol:

£4.5 miliwn i’r Diwydiannau Creadigol yn y Gorllewin a’r Cymoedd

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, Lesley Griffiths AC wedi cyhoeddi (25.01.11) hwb o £4.5 miliwn i hyfforddi pobl yn y Diwydiannau Creadigol i feithrin eu sgiliau er mwyn creu sector blaengar a deinamig.

Skillset Cymru, cangen Cymru o Skillset, Cyngor Sgiliau Sector diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol, fydd yn arwain y rhaglen Sgiliau yn yr Economi Ddigidol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant y Cyfryngau Creadigol yn y Gorllewin a’r Cymoedd dros y pedair blynedd nesaf.

Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop, trwy Lywodraeth y Cynulliad, yn neilltuo £2.7 miliwn ar gyfer y rhaglen hyfforddi ac S4C, Teledwyr Annibynnol Cymru a Skillset Cymru sy’n darparu’r gweddill.

Bydd Sgiliau yn yr Economi Ddigidol yn helpu gweithwyr a busnesau i gaboli eu sgiliau er mwyn gallu cadw eu bys ar byls y technolegau newydd a dysgu sgiliau rheoli, technegol a chrefft i ddiwallu anghenion cyflogwyr a gweithwyr annibynnol.

Dywedodd Lesley Griffiths bod buddsoddi mewn sgiliau yn hanfodol er mwyn cynnal llwyddiant a thwf y sector deinamig hwn.

“Mae’n bwysig iawn bod gan y gweithlu’r sgiliau perthnasol o’r radd flaenaf i allu cynnal safonau a chynhyrchiant y sector amrywiol hwn, ac i wneud yn siwr bod Cymru’n cael y gorau ohono’n economaidd ac yn ddiwylliannol.

“Mae strategaeth Llywodraeth y Cynulliad, Cyflawni Cymru Ddigidol, yn pwysleisio mor bwysig yw gwneud y gorau o’r cyfleoedd ddaw gyda’r oes digidol hwn, ac mae’n disgrifio’n hymrwymiad i helpu i ddysgu sgiliau a thechnolegau mwy arbenigol ar gyfer diwydiant. Rwy’n croesawu’r fenter ddiweddaraf hon i gefnogi’r amcanion hyn.”

Trwy Sgiliau yn yr Economi Ddigidol, cynhelir gwaith ymchwil i weld pa sgiliau sydd eu hangen ar y sector heddiw ac yn y dyfodol yn y rhanbarth targed, er mwyn datblygu a darparu hyfforddiant perthnasol ac i helpu unigolion i ddatblygu sgiliau newydd i’w helpu i gadw eu swyddi neu i gael swyddi newydd.

Meddai Cyfarwyddwr Skillset Cymru, Gwawr Hughes: “Bydd y rhaglen hon yn sbardun hynod bwysig ar gyfer datblygiad a llwyddiant Diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru. Bydd yn hwb i bob agwedd o fewn y sector, gan gynnwys sgiliau rheoli, technegol a chrefft. Ein nod yw gwella’r hyn sy’n cael ei ddysgu a helpu gweithwyr a mentrau i wella’u sgiliau ac addasu i drefniadau gwaith newydd a thechnolegau newydd.”

Meddai Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen: “Mae S4C yn ariannu darpariaeth hyfforddi ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac yn croesawu’r rhaglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Digidol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda thîm y rhaglen er mwyn sicrhau bod gan y sector cynhyrchu yng Nghymru'r sgiliau i fanteisio’n llawn ar y potensial economaidd.”

Meddai Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC a Chyfarwyddwr Antenna: “Fel partner allweddol yn rhaglen Skillset, mae Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn gefnogol iawn o’r buddsoddiad newydd hwn yn sgiliau gweithlu’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru. Mae gennym lawer o aelodau yn yr ardal ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn elwa ar y cymorth mawr ei angen hwn”.

Amcanion eraill y rhaglen yw helpu gweithlu’r Cyfryngau Creadigol yn yr Ardal Gydgyfeirio i ddeall materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth a’r amgylchedd yn well.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?