S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Eiconau rygbi Cymru yn hyrwyddo'r Chwe Gwlad ar S4C

25 Ionawr 2011

Saith o gyn-faswyr rygbi Cymru – ac un o enwau mawr y dyfodol – yw sêr ymgyrch ddiweddaraf S4C i hyrwyddo rhaglenni’r sianel o bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2011.

Mae'r eiconau, sy’n gynnwys Cliff Morgan, Barry John, Phil Bennett, Gareth Davies, Jonathan Davies, Neil Jenkins a Stephen Jones, yn arddangos talent rygbi Cymru dros y trigain mlynedd diwethaf.

Mae’r ymgyrch yn gweld pob un o'r cyn-chwaraewyr rhyngwladol yn eu tro yn tynnu’r llwch o’u crysau cochion ac yn eu gwisgo gyda balchder hyd nes bydd seren tîm Cymru Dan 20, Steve Shingler, sydd newydd arwyddo cytundeb â Gwyddelod Llundain, yn ymddangos ar ddiwedd yr hysbyseb yn cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn safle’r maswr.

Bydd yr ymgyrch i’w gweld ar y sgrin o ddydd Mercher 26 Ionawr.

Bydd gwledd o rygbi yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Chwefror a Mawrth, sy'n cynnwys darllediadau byw o RBS Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2011, Cynghrair Magners, Cwpan LV a gêm Cymru Dan 20 yn erbyn Lloegr.

Bydd uchafbwyntiau ymgyrchoedd y Cwpan Heineken a Rygbi Saith Bob Ochr hefyd yn cael ei ddangos.

Mewn cyfres newydd sbon Clwb Rygbi Shane, sy’n dechrau ar 1 Chwefror, bydd Shane Williams a Derwyn Jones yn uno i hyfforddi tîm ieuenctid Aman United. Mae pethau’n argoeli’n dda i ddechrau gydag ymateb calonogol i ymgyrch Shane i sefydlu tîm ieuenctid newydd. Ond mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth wrth i’r tîm golli’n drwm mewn gêm cyn dechrau’r tymor, a diffyg disgyblaeth yn berwi o fewn y garfan.

Mae Jonathan Davies yn dychwelyd ar noswyl pob gêm rygbi rhyngwladol, gyda dos fawr o gomedi, sgwrsio, chwerthin, ac wrth gwrs y gystadleuaeth trosi Ar y Pyst. Yn ymuno ag ef mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens, y cyflwynydd Sarra Elgan a gwesteion arbennig gan gynnwys Miss Cymru, Courtney Hamilton, y darlledwr Chris Needs a’r cyn chwaraewyr rhyngwladol Dafydd Jones a Robert Jones.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?