S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bron miliwn yn gwylio S4C mewn wythnos wrth i 2011 ddechrau’n dda i’r Sianel

26 Ionawr 2011

Bu bron miliwn o wylwyr yn tiwnio’i fewn i raglenni S4C yr wythnos ddiwethaf. (Wythnos yn gorffen 23 Ionawr).

Bu 669,000 o unigolion yng Nghymru a 304,000 tu allan i Gymru – cyfanswm o 973,000 – yn gwylio rhaglenni’r Sianel yn ystod yr wythnos. Roedd hyn yn cynnwys gêm Cwpan yr FA rhwng Caerdydd a Stoke a ddarlledwyd nos Fawrth 18 Ionawr gan ddenu 608,000 o wylwyr ledled y DU.

Mae ffigyrau gyhoeddwyd yn ddiweddar hefyd yn dangos fod y cyfanswm fu’n gwylio pum rhaglen fwyaf poblogaidd S4C yn 2010 26% yn uwch na’r nifer fu’n gwylio pum rhaglen uchaf y Sianel yn 2009.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?