S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Melanie yn ennill teitl cariad@iaith: love4language

15 Gorffennaf 2011

 Melanie yn ennill teitl cariad@iaith:love4language

Yr actores Melanie Walters yw enillydd teitl cariad@iaith:love4language 2011 S4C, a hynny ar ôl curo saith dysgwr brwd adnabyddus arall.

Yn y rhaglen olaf yn sioe realiti S4C cariad@iaith:love4language, a gafodd ei darlledu’n fyw o wersyll fforest yng Nghilgerran nos Wener, 15 Gorffennaf, yr actores o Abertawe ddaeth i’r brig.

Melanie, a chwaraeodd gymeriad Gwen yn y gyfres ddrama boblogaidd Gavin and Stacey a derbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ei chyd ddysgwyr enwog a thiwtoriaid y cwrs am wneud yr ymdrech fwyaf yn ystod wythnos ddwys o sialensiau dysgu Cymraeg.

“Mae ennill yn anrhydedd fawr. Mae’r wythnos yma wedi fy ysbrydoli i - a doeddwn i ddim wedi disgwyl teimlo fel hyn am y profiad. Fe ddysgais dipyn o Gymraeg ar gyrsiau rai blynyddoedd yn ôl ac roeddwn i’n synnu cymaint oedd wedi aros yn yr isymwybod. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg i ddal ati, mae’n werth yr ymdrech,” meddai Melanie, sydd yn ogystal yn athrawes Pilates benigamp.

Mae wyth seren adnabyddus wedi bod yn cymryd rhan yn y rhaglen gan aros am wythnos yn y gwersyll ecogyfeillgar chic yng Nghilgerran, Sir Benfro.

Maen nhw i gyd wedi bod yn derbyn cwrs dwys o wersi gan y tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn, a hynny o dan lensys camerâu teledu cwmni cynhyrchu Fflic.

Fe wnaeth y ddarlledwraig a’r newyddiadurwraig Janet Street-Porter, a ymddangosodd yn y gyfres flaenorol o cariad@iaith yn 2004 gyflwyno’r wobr i’r enillydd.

Y wobr oedd llwy garu brydferth o ddur wedi ei wneud o law gan y gof a’r artist Toby Petersen o’r Gelli Wen, ger Meidrym, Sir Gaerfyrddin. Dyma’r gof adnabyddus sydd hefyd wedi dylunio’r Ddraig ar y stamp Post Brenhinol.

Fe wnaeth Melanie hefyd ennill gwobr arall – lle ar gwrs wythnos Cymraeg yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn.

Yr actores Josie d’Arby ddaeth yn ail, gan ennill penwythnos ym mhentre’ gwyliau pum seren Bluestone yn Sir Benfro.

Dywedodd Josie d’Arby ei bod hi’n anrhydedd fawr i ennill yr ail wobr. “Rwy’ ar ben fy nigon,” meddai. “Mae’r holl wythnos wedi bod yn brofiad anhygoel - dyw e ddim wedi teimlo fel cystadleuaeth o gwbl ond yn hytrach fel ymdrech wyth o bobl i weithio gyda’i gilydd i ddysgu rhywbeth gwerthfawr.”

Y chwe dysgwr arall yn fforest oedd y cyn chwaraewr rygbi Colin Charvis, yr actores Helen Lederer, y canwr Rhys o GLC, y gantores Sophie Evans, y cyflwynydd Matt Johnson a’r gwleidydd Lembit Öpik.

Ychwanegodd y gyflwynwraig a’r tiwtor iaith Nia Parry, “Maen nhw i gyd wedi ennill yn fy ngolwg i. Maen nhw wedi dangos beth y gall pobl gyflawni mewn wythnos wrth ddysgu Cymraeg. Maen nhw’n sicr o fod yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr ym mhob man.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?