S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Deg yn ennill lle yng nghystadleuaeth Fferm Ffactor

19 Gorffennaf 2011

  Mae deg o gystadleuwyr ar ben eu digon ar ôl clywed eu bod nhw wedi sicrhau eu lle yng nghyfres boblogaidd S4C Fferm Ffactor fydd yn cael eu darlledu yn yr hydref.

Ond i ddau anlwcus – Geraint Thomas, 36, o Langennech ger Llanelli a Rhodri Evans, 35, o’r Parc, Y Bala - mae’r cyfan wedi gorffen mewn torcalon heno (Nos Fawrth, 19 Gorffennaf) yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar ôl iddynt fethu ennill eu lle yng nghystadleuaeth Fferm Ffactor 2011.

Roedd Fferm Ffactor wedi derbyn dros 18,000 o bleidleisiau ar gyfer y 12 ffarmwr ar y rhestr fer trwy bleidleisiau ar safle Facebook Fferm Ffactor, trwy bleidlais bost ac ym Mhafiliwn S4C yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.

Ond bu’n rhaid i’r tri a’r nifer leiaf o bleidleisiau – Geraint Thomas, Rhodri Evans a Brian Bown, 41 oed o Lannerchymedd, Ynys Môn – wynebu un sialens eraill.

Bu’n rhaid iddynt yrru o ambell cwrs o rwystrau ar feiciau cwad yn y Cylch Gwartheg o flaen tyrfa frwd a swnllyd.

Y cyflyma’ ohonynt fyddai’n cael mynd yn ei flaen i’r gyfres Fferm Ffactor a’r cawr o ddyn o Ynys Môn, Brian Bown enillodd y sialens.

Y deg yn y ffeinal felly yw Brian, y gwr a gwraig, Iestyn Tegid Davies a Marian Davies o Drawsfynydd, y fam i ddau, Debs Phillips o Grymych, Heilin Huw Thomas, 24 o Landysul, Malcolm Davies, 37, o Ddinas, ger Pwllheli, Aled Huw Roberts, o Rosllannerchrugog ger Wrecsam, Dafydd Evans, 27, o Lanwrin ger Machynlleth, Sam Carey, 22, o Roshill, Sir Benfro a Rheinallt Davies, 21, o Lanwrin ger Machynlleth.

Byddant yn dod ynghyd eto ar gyfer y gyfres yn yr hydref pan fydd y beirniaid, Yr Athro Wynne Jones a’r ffarmwr Aled Rees, yn pwyso a mesur eu perfformiad o wythnos i wythnos.

Y ddarlledwraig Daloni Metcalfe fydd yn cyflwyno’r drydedd gyfres o Fferm Ffactor sy’n cael ei chynhyrchu ar gyfer S4C gan Cwmni Da.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?