S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Raplyfr cyntaf “rapiwr gorau’r byd”!

02 Awst 2011

 Mae plant yn hoff iawn o sain odlau, felly dyma’r llyfr perffaith ar eu cyfer. Mae Raplyfr 1 O ble mae llaeth yn dod?, sy’n cael ei gyhoeddi’r wythnos hon gan wasg y Lolfa, yn llawn penillion i’w darllen a’u rapio’n uchel dros y lle.

Rapsgaliwn sy’n adrodd y stori ar ffurf penillion, cymeriad sy’n boblogaidd iawn ar raglenni Cyw ar S4C, a thros y misoedd diwethaf mae ei boblogrwydd wedi cynyddu’n aruthrol.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C: “Rydym yn falch iawn fod enwogrwydd Rapsgaliwn yn dal i ledaenu a’i boblogrwydd yn mynd o nerth i nerth. Bydd llyfr amdano fel un o arwyr mwyaf eiconig plant Cymru ac un o gymeriadau newydd gwasanaeth teledu arloesol S4C, Cyw yn sicr o fod yn llwyddiant ysgubol.”

Yn ogystal â bod yn seren ar y teledu, mae Rapsgaliwn hefyd wedi rhyddhau cryno-ddisg o ganeuon. Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe ym mis Mehefin, lle ryddhaodd gân gyda Mistar Urdd, enillodd gannoedd o ddilynwyr newydd o bob oed. Ac erbyn hyn mae’n awdur o fri!

Mae’r stori’n dilyn fformat y rhaglen deledu, a gynhyrchir gan gwmni Fflic, lle mae Rapsgaliwn, yn ei dracwisg sgleiniog aur, yn dod o hyd i atebion i gwestiynau pwysig bywyd gyda chymorth ei raplyfr.

Beca Evans, o gwmni Fflic, yw awdur y stori. Mae’n hanu o Gaerdydd ac wedi cynhyrchu a gweithio ar nifer o raglenni poblogaidd megis Cariad@Iaith, Rapsgaliwn a Cwpwrdd Dillad.

Mae’r llyfr yn brosiect ar y cyd rhwng gwasg y Lolfa, cwmni teledu Fflic a chwmni Cube Interactive, cwmni o Gaerdydd sydd wedi creu’r lluniau ar gyfer gwefan Rapsgaliwn.

Mae’r Lolfa a Cube yn cydweithio hefyd i gynhyrchu ap Rapsgaliwn a fydd yn barod i’w lawrlwytho ym mis Awst. Bydd Appsgaliwn yn cynnwys e-lyfr gyda’r lluniau wedi’u hanimeiddio, tudalennau i’w lliwio a phosau. Meddai Meinir Wyn Edwards o wasg y Lolfa:

“Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Mae technoleg yn symud mor gyflym y dyddie hyn a phlant yn cael eu sbarduno fwyfwy gan sgrin fach y ffôn a’r iPod yn hytrach na sgrin fawr y teledu a’r cyfrifiadur. Diddorol iawn fydd gweld sut fydd yr arbrawf yn gweithio. Os bydd Appsgaliwn yn llwyddiant, mae posibiliadau di-ben-draw i ehangu ymhellach.”

Bydd Rapsgaliwn ym mhabell y Lolfa ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam ar ddydd Mawrth, 2 Awst, am 3 o’r gloch.

Teitl: Raplyfr 1 Rapsgaliwn ‘O ble mae llaeth yn dod?’

Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2011

Pris: £2.95 Cyhoeddir gan Y Lolfa

Awdur, Dylunydd: Beca Evans; Cube Interactive

Ffôn: 02920 671528; 02920 452835; 01970 832304

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?