S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi Ysgoloriaeth T.Glynne Davies

04 Awst 2011

Mae S4C wedi cyhoeddi manylion Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T.Glynne Davies am y flwyddyn 2011-12.

Gwnaethpwyd y cyhoeddiad mewn cyfarfod ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (dydd Iau 4 Awst).

Cynigir Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T.Glynne Davies, sydd werth £6,500, gan S4C i gynorthwyo ysgolheigion i ddilyn cwrs ol-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae S4C yn cynnig yr ysgoloriaeth er mwyn cefnogi datblygiad talent ym maes newyddiaduraeth ac i helpu i gryfhau’r cynnwys mae’r Sianel yn ei gomisiynu.

Dywedodd Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C: “Rydw i’n falch iawn ein bod yn medru cynnig Ysgoloriaeth T Glynne Davies eto eleni. Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth a Chyfryngau Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad yn rhyngwladol ym maes dysgu ac ymchwil newyddiadurol ac mae’r cwrs Diploma ôl radd wedi meithrin newyddiadurwyr o’r safon uchaf dros y blynyddoedd. Mewn cyfnod o arbed arian o fewn y diwydiant mae’n hanfodol fod 'na ddal pwyslais ar hyfforddi a meithrin pobl ifanc. Yn ogystal â’r Ysgoloriaeth, mae S4C yn cyfrannu £320,000 tuag at ddarpariaeth hyfforddi i’r sector gynhyrchu ac yn gweithio gyda Skillset a’r cwmnïau cynhyrchu, a gyda Cyfle, er mwyn hybu a datblygu sgiliau ym maes y cyfryngau”

Enillwyr diweddaraf yr ysgoloriaeth oedd Cemlyn Davies, yn wreiddiol o Benrhyn-coch, ger Aberystwyth a Steffan Powell, yn wreiddiol o Lanaman, Sir Gaerfyrddin. Mae’r ddau erbyn hyn yn newyddiadurwyr gyda’r BBC yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth fel teyrnged i’r bardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr T.Glynne Davies a fu farw yn 1988.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?