S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i Huw Ceredig

16 Awst 2011

 Mae pawb yn S4C yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf â theulu’r actor Huw Ceredig fu farw heddiw (dydd Mawrth 16 Awst).

Huw oedd un o sêr amlycaf y gyfres ddrama Pobol y Cwm. Bu’n actio cymeriad poblogaidd Reg Harries am bron i ddeng mlynedd ar hugain.

Roedd hefyd yn llais cyfarwydd i genedlaethau o blant drwy ei waith yn trosleisio cyfresi fel SuperTed ac yn fwy diweddar Meees.

Fe enillodd enwogrwydd y tu hwnt i’r sgrin fach am ei rôl yn y ffilm Twin Town.

Wrth dalu teyrnged dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, “Roedd Huw Ceredig yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd S4C o’r cychwyn cyntaf. Roedd yn actor talentog ac yn gymeriad lliwgar a chynnes. Bu’n llysgennad brwd dros y Gymraeg drwy Gymru gyfan a bydd bwlch mawr ar ei ol.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?