S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wedi 7 yn talu teyrnged i Huw Ceredig

17 Awst 2011

 Bydd rhifyn arbennig o Wedi 7 heno (Mercher 17 Awst, 19:00) yn talu teyrnged i’r actor Huw Ceredig fu farw ddoe yn 69 oed.

Bydd nifer o gyfeillion yr actor yn hel atgofion am y gŵr amryddawn, gan drafod ei fywyd a’i ddiddordebau y tu hwnt i’r sgrin a’r llwyfan yn ogystal â’i yrfa. Ymysg ei gyd-actorion fydd yn cofio amdano mae Emyr Wyn, Iestyn Garlick, Sharon Morgan, Gareth Lewis a John Ogwen.

Yn ogystal â’i gyfraniad amhrisiadwy fel Reg Harries ar Pobol y Cwm fe fyddwn ni hefyd yn cofio Huw am yr hyn a roddodd i fywyd ehangach Cymru yn sgil ei ddiddordeb yn niwylliant, chwaraeon, cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg.

Cawn hefyd olrhain hanes ei fywyd yng nghwmni cyfeillion o Frynaman, Llanuwchllyn a Phen-y-bont ar Ogwr.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?