S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C Clic nawr ar gael ar yr iPad

18 Awst 2011

 Mae S4C yn cynnig modd arall o wylio rhaglenni’r Sianel wrth lansio fersiwn ap S4C Clic ar gyfer yr iPad.

Mae hyn yn ehangu’r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael ar gyfer dyfeisiadau iPhone ac iPod touch a lansiwyd ym mis Mehefin 2011. Mae’r ap dwy-ieithog, y gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ar gael ar yr Apple App Store ar http://bit.ly/clics4c

Bydd yr ap newydd, sydd ar gael o heddiw (Iau 18 Awst) ymlaen, yn galluogi gwylwyr i wylio rhaglenni S4C yn fyw ac ar alw am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf gyda gwasanaeth Clic. Clic yw safle we mwyaf poblogaidd S4C gyda dros 80,000 o ymweliadau’n fisol.

Meddai Arshad Rasul, Cyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu S4C, “Mae’r ymateb i ap S4C Clic ar gyfer yr iPhone a’r iPod touch wedi bod yn ffafriol iawn ers lansio ym mis Mehefin. Lansio ap newydd ar gyfer yr iPad oedd y cam naturiol nesaf wrth i S4C ehangu ar ddarpariaeth gwasanaethau’r Sianel ym maes technoleg newydd.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?