S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tymor newydd o raglenni ar S4C

01 Medi 2011

 Bydd cerddoriaeth gyda Rhydian Roberts ac Only Men Aloud, drama gyffrous, dathliad o ryfeddodau arfordir Sir Benfro a holl angerdd Cwpan Rygbi’r Byd 2011 wrth galon amserlen S4C dros yr hydref.

Y canwr Rhydian sy’n cyflwyno’i gyfres deledu gyntaf erioed, gan gynnig llwyfan i dalentau disglair newydd, tra bod Only Men Aloud yn canu opera, sioeau cerdd a cherddoriaeth o fyd y ffilm.

Yn y gyfres ddrama fywiog Gwaith Cartref, bydd bwrlwm byd addysg Cymraeg yn dod yn fyw ar y sgrin fach, tra bod Sombreros yn ymdrin â pherthynas dwy chwaer a Zanzibar yn canolbwyntio ar un haf ym mywydau cwlwm o ffrindiau.

Yn Llwybr yr Arfordir, yr awdur a’r darlledwr Jon Gower fydd yn ein tywys ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro, trydedd daith gerdded fwyaf poblogaidd y byd yn ôl arolwg diweddar.

Bydd holl gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011 yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C, yn ogystal â’r seremoni agoriadol, y Ffeinal, rhaglenni uchafbwyntiau, golwg o du fewn i wersyll y Cymry a rhifynnau o’r sioe adloniant Jonathan.

Gareth Roberts, Arthur Emyr, Gwyn Jones a Jonathan Davies fydd ymhlith aelodau’r tîm cyflwyno a sylwebu, a bydd modd i ffans gymryd rhan hefyd, drwy ffôn, neges destun, Twitter - drwy ddefnyddio #rygbi - a Facebook.

Hanner canrif ers cyhoeddi un o nofelau mwyaf poblogaidd y Gymraeg, Un Nos Ola Leuad, bydd S4C yn talu teyrnged i’r bardd, y llenor a’r newyddiadurwr Caradog Prichard.

Addasiad o’i hunangofiant o’r un enw yw’r ddrama ddogfen ddirdynnol Afal Drwg Adda, gyda’r diweddar Stewart Jones yn chwarae Caradog ym mlodau ei ddyddiau. Mae’r rhaglen yn ffenestr ar blentyndod Caradog ym Methesda a’i yrfa fel newyddiadurwr yng Nghymru a Llundain. Bydd cyfle i fwynhau’r addasiad ffilm o’i nofel, Un Nos Ola Leuad, a bydd rhifyn arbennig o’r gyfres gelfyddydau Pethe.

Bydd y cogydd Dudley Newbery hefyd yn cynnig cyngor ar sut i greu pryd bwyd cofiadwy yn ei gyfres newydd sbon, Dudley ar Daith, a bydd yn troi at rai o gogyddion mwyaf blaenllaw Cymru am ambell i syniad.

Meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu dros dro S4C, “Mae’n ddechrau tymor newydd sbon, gyda chyfle i wylwyr fwynhau amrywiaeth o raglenni da sy’n cyflwyno straeon ffres ac yn bwrw golwg o’r newydd ar agweddau o’n diwylliant a’n hanes.

“Bydd actio, canu, cyflwyno a sylwebu o’r radd flaenaf a lleoliadau gwahanol yng Nghymru a phen draw’r byd, gydag S4C ar hyd yr amser yn cynnig ffenestr siop unigryw ar fywyd y genedl.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?