S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dathlu’r Nadolig yn Gynnar yn Rhosllannerchrugog

19 Medi 2011

Mae’r haf wedi ein gadael am flwyddyn arall a’r dail yn dechrau disgyn i groesawu’r hydref, ond mae cymuned Rhosllannerchrugog wrthi’n paratoi am y Nadolig a’r her fawr sy’n eu hwynebu.

Ar ddydd Gwener 16 Medi, cyhoeddodd y cyflwynydd a chynhyrchydd teledu Stifyn Parri gynlluniau am gyfres realaeth newydd ar S4C, Seren Nadolig, fydd yn dilyn aelodau’r gymuned wrth iddynt greu a chynhyrchu pantomeim Nadolig.

Adeilad trawiadol Y Stiwt, wedi’i leoli yng nghalon y pentref, fydd lleoliad y cynhyrchiad ar ddydd Sul 4 Rhagfyr.

Mae’r tîm cynhyrchu wrthi’n chwilio am actorion, cantorion, cerddorion, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, pobl gwisgoedd, colur, dylunwyr set, ysgrifenwyr, corau, dawnswyr, tîm marchnata a gwerthwyr tocynnau i ymuno yn yr her.

Bydd clyweliadau yn agored i bawb sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r pantomeim ar 27 Medi yn y Stiwt. Bydd ymarfer llawn cyntaf y corws yn cael ei gynnal ar 4 Hydref.

Meddai Stifyn Parri, sy’n rhedeg Mr Producer - cwmni Digwyddiadau Creadigol a Chysylltiadau Cyhoeddus yng Nghaerdydd: “Yn sicr fydd hi’n ras yn erbyn amser – deg wythnos o waith caled sydd gennym i wireddu’r freuddwyd. A bydd yr holl genedl yn ein canlyn ar S4C bob wythnos yn y gyfres Seren Nadolig, gan ddechrau ar 8 Tachwedd.

“Mae yna groeso cynnes i bawb i fod yn rhan o’r prosiect - yr hen a’r ifanc, y Cymry Cymraeg a’r di-gymraeg a’r hyderus a’r swil!”

Bydd yr holl arian a godir o werthu tocynnau’r pantomeim yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ystafell gymunedol newydd lle mae’r theatr ieuenctid yn ymarfer yn y Stiwt – er mwyn meithrin talent perfformio’r dyfodol.

Mae Seren Nadolig yn ddilyniant i’r gyfres lwyddiannus Seren Bethlehem yn 2009 pan aeth cymuned o Sir Gaerfyrddin ati i ail-greu drama’r geni mewn beudy ym mhentref Bethlehem. Roedd y gyfres yn dilyn hynt a helynt y gymuned wrth baratoi ar gyfer y cynhyrchiad – a oedd yn cynnwys babi newydd-anedig, asyn, cannoedd o blant ysgol lleol a’r ŵyn bach a oedd yn brefu trwy’r holl berfformiad!

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Rydym yn hynod falch o’r croeso cynnes rydym wedi derbyn hyd yma gan y gymuned yn Rhosllannerchrugog ag edrychwn ymlaen at gefnogi anturiaethau’r panto. Mi fydd S4C hefyd yn ymweld â’r ardal ym mis Hydref fel rhan o’n hymgyrch Calon Cenedl, lle byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau eraill ar gyfer y gymuned yn cynnwys Noson Gwylwyr, a bydd cyfle i bawb ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel a chyfarfod â chyfarwyddwyr y sianel.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?