S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw - hoff wasanaeth teledu plant yng Nghymru

10 Hydref 2011

 Cyw - gwasanaeth dyddiol S4C i'r plant ieuengaf - sy'n denu'r mwyafrif o blant rhwng 4 a 7 oed yng Nghymru i wylio teledu yn y boreau, yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan y Sianel ym mis Gorffennaf.

Ac nid yn unig y plant sy'n manteisio - mae'r ymchwil yn dangos bod rhieni di-Gymraeg yn cael help eu plant i ddysgu'r iaith wrth wylio Cyw.

Mae'r gwerthfawrogiad o wasanaeth Cyw yn amlwg yng nghanlyniadau'r ymchwil a gynhaliwyd ymhlith grŵpiau o blant dosbarth derbyn a phlant blwyddyn 1 yng ngwahanol rannau o Gymru.

Lansiwyd y gwasanaeth yn 2008 gan ddarlledu o 7 y bore tan 1.30 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener. Estynnwyd y gwasanaeth i'r penwythnosau fis Hydref y llynedd yn dilyn galw am fwy o raglenni Cyw. Bydd y gwasanaeth, sydd wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol ym maes teledu plant, yn ymestyn eto o fis Mawrth nesaf ymlaen.

Rhaglenni gwreiddiol a wnaed yng Nghymru gan gwmnïau cynhyrchu Cymreig ac mewn partneriaeth â darlledwyr rhyngwladol sydd wrth galon gwasanaeth uchelgeisiol Cyw. Mae'r rhaglenni yn cael eu cysylltu gan lincs cyffrous a bywiog a gan gyflwynwyr sy'n perfformio o flaen animeiddiadau lliwgar.

Mae'r gwasanaeth ar y sgrin yn cael ei atgyfnerthu gan wefan ddwyieithog - s4c.co.uk/cyw a blwyddyn yn ôl lansiwyd ap Cyw yn rhad ac am ddim i sicrhau fod plant yn medru mwynhau straeon, caneuon a gemau Cyw pa le bynnag y bont.

Ymhlith y ffeithiau ddaeth o'r Ymchwil oedd:

• O'r holl sianeli plant sydd ar gael, Cyw oedd y gwasanaeth mwyaf poblogaidd yn y bore i'r rhan fwyaf o'r plant a holwyd.

• Ar ddiwrnod ysgol arferol roedd y rhan fwyaf o'r plant yn gwylio teledu yn y bore.

• Yn aml iawn roeddent yn gwylio Cyw yng nghwmni brawd neu chwaer.

• Roedd rhai o'r plant yn galw am ymestyn y gwasanaeth.

• Roedd rhai yn galw am gynyddu'r gwasanaeth ar y penwythnos.

• Yn y cartrefi cymysg eu hiaith, mae nifer yn sôn fod rhieni di-Gymraeg yn ceisio dysgu'r iaith gyda'r plant yn eu cynorthwyo.

• Roedd bron pawb wedi ymweld â gwefan Cyw adre' ac/neu yn yr ysgol.

• Roedd nifer fawr wedi gweld cymeriadau a chyflwynwyr Cyw ar ymweliadau â'u hysgolion neu mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol.

• Roedd pob un o'r athrawon yn yr ysgolion holwyd yn defnyddio gwefan Cyw fel adnodd yn y dosbarth.

• Roedd pob un o'r athrawon o'r farn fod Cyw yn adnodd gwych ac o gymorth mawr iddynt fel athrawon.

• Ymhlith y cymeriadau mwyaf poblogaidd gan y plant mae Rapsgaliwn, Marcaroni a Sam Tân.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, "Mae Cyw wedi mynd o nerth i nerth gan ddangos bod galw mawr am wasanaeth arloesol yn yr iaith Gymraeg i'r gwylwyr ieuengaf.

"Mae'r ymateb oddi wrth blant a rhieni yn galonogol ac ysbrydoledig a byddwn yn dal i adeiladu ar lwyddiant Cyw."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?