S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prif Weithredwr newydd S4C i ddechrau yn ei swydd fis Ionawr

16 Rhagfyr 2011

 Mae Awdurdod S4C wedi cadarnhau y bydd Prif Weithredwr newydd y Sianel, Ian Jones yn dechrau yn ei swydd ar 23 Ionawr.

Mae Ian Jones yn un o uwch reolwyr mwyaf profiadol y byd teledu ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau ac mae wedi gweithio yn y diwydiant ym Mhrydain a thramor ers bron 30 mlynedd. Mae ganddo brofiad eang ar draws darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol a’i swydd fwyaf diweddar oedd Rheolwr Gyfarwyddwr, Dosbarthu Cynnwys a Datblygiad Masnachol, cwmni A+E Television Networks, yn gweithio yn Efrog Newydd.

Roedd Ian, sy’n dod yn wreiddiol o Dreforys, Abertawe, yn rhan o’r tîm lansiodd S4C ym 1982 ac ar ôl gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol, ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997. Ers hynny bu’n gweithio fel rheolwr a chyfarwyddwr i Scottish Television, United News and Media (ITEL) a Granada International. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas Dosbarthu Diwydiant Teledu Prydain (British Television Distribution Industry Association) am ddwy flynedd. Rhwng 2004 a 2007 roedd yn Llywydd National Geographic Television International, cyn mynd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp i’r Target Entertainment Group.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?