S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gwerthu Sam Tân i HIT Entertainment

22 Mawrth 2007

 Mae S4C wedi gwerthu ei chyfran yn Sam Tân – y gyfres feithrin a ddarlledwyd gynta’ oll yn 1987 – i gyd-berchennog yr animeiddiad, HIT Entertainment.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd S4C yn parhau i ddarlledu hen gyfresi a rhaglenni newydd ac mae’n cadw holl hawliau Cymraeg y gyfres. Bydd y Sianel hefyd yn Uwch Gynhyrchydd ar chweched cyfres newydd o Sam Tân, i’w chyflenwi yng ngwanwyn 2008.

Bydd y gyfres newydd hefyd yn cynnwys DVD arbennig a rhaglen awr o hyd, fydd yn cael ei rhyddhau yn 2009.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Sam Tân wedi ennill ei phlwyf fel brand meithrin o bwys rhyngwladol. Mae’r gyfres wedi ei darlledu mewn dros 90 o wledydd, mewn degau o ieithoedd. Mae’r pumed gyfres, a gynhyrchwyd yn 2002, yn cael ei darlledu ar hyn o bryd ar S4C, ac, yn Saesneg, o dan y teitl Fireman Sam, ar y BBC.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C: “Roedd y cytundeb hwn yn gwneud synnwyr masnachol a strategol ac mae’n unol â pholisi’r Sianel o adaseinio hawliau rhaglenni. Mae Sam Tân yn rhan bwysig o’n hamserlen i blant. Bydd yr incwm o’r gwerthiant yn ein galluogi ni i gyflawni amcanion strategol eraill, gan gynnwys datblygu ein gwasanaethau plant.”

Meddai Bruce Steinberg, Prif Weithredwr HIT Entertainment: “Ry’n ni’n falch ofnadwy o dreftadaeth gyfoethog Sam Tân yn y marchnadoedd Cymreig a rhyngwladol. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd y gyfres i’r lefel nesaf, yn greadigol ac yn fasnachol, ac at gydweithio ag S4C a’n partneriaid creadigol ar benodau newydd Sam Tân.”

Diwedd

S4C

Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy’n darparu ystod o raglenni Cymraeg o ansawdd uchel ar sawl llwyfan, gan gynnwys band llydan. Caiff y Sianel ei hariannu gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i fformiwla statudol. Cynhyrchir incwm masnachol ychwanegol drwy werthu rhaglenni a gofod hysbysebu. Mae’r rhan fwyaf o raglenni S4C yn cael eu comisiynu o’r sector cynhyrchu annibynnol. Mae gan S4C enw da yn y maes cynhyrchu rhaglenni plant; ei phrosiect diweddaraf yw Holi Hana, cyfres feithrin animeiddiedig sydd eisoes wedi ei gwerthu i ddwsin o wledydd ledled y byd. Mae S4C wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei huchelgais i sefydlu sianel ar wahan i blant; bydd yn cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y prosiect maes o law.

HIT Entertainment

Ers Mehefin 2005 grwp Apax Partners sydd wedi perchen HIT Entertainment, un o gynhyrchwyr a pherchnogion annibynnol hawliau adloniant i blant mwyaf blaenllaw’r byd. Ymhlith portffolio’r cwmni mae’r cyfresi plant Bob the Builder™, Barney™, Fireman Sam™, Thomas & Friends, Pingu™, Rubbadubbers™ ac Angelina Ballerina™. Mae HIT yn gweithredu fel cynrychiolydd The Wiggles® yn y DU, UD a Chanada ac fel cynrychiolydd byd-eang llyfrgell brandiau teuluol clasurol The Jim Henson Company, gan gynnwys Fraggle Rock™. Mae HIT hefyd yn berchen Guinness World Records™. Mae busnesau HIT yn cynnwys cynhyrchu teledu a fideo (gan gynnwys stiwdios yn yr UD a’r DU), cyhoeddi a sioeau byw. Mae gan y cwmni gatalog o dros fil o oriau o raglenni meithrin ac mae’n gwerthu ei rhaglenni i ragor na 250 o wledydd ledled y byd, mewn mwy na 40 o wahanol ieithoedd. Mae gan y Cwmni swyddfeydd yn y DU, UD, Canada, Hong Kong a Siapan. Yn 2005, ymunodd HIT â Comcast Corporation, PBS a’r Sesame Workshop i lansio PBS KIDS SproutSM, sianel gebl ddigidol 24-awr a gwasanaeth fideo ar alw ar gyfer plant meithrin. Am fwy o wybodaeth ewch i www.hitentertainment.com.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?