S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwylwyr S4C i ddewis Emyn i Gymru 2012

08 Chwefror 2012

  Oes gennych chi hoff emyn? Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol eisiau clywed eich barn ac yn ystod mis Chwefror bydd y gyfres yn gofyn i chi bleidleisio am Emyn i Gymru 2012.

Ddechrau’r mis daeth panel o arbenigwyr ynghyd i ddewis rhestr fer o 20 cân. Yn dilyn pleidlais gan wylwyr bydd 12 o’r emynau mwyaf poblogaidd yn cael eu perfformio mewn cymanfa ganu ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 2 Mawrth.

Bydd y gymanfa yn cael ei darlledu mewn rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul 11 Mawrth.

Yr ugain emyn yw:

• Arwelfa - Arglwydd gad im dawel orffwys

• Bro Aber - O tyred i’n gwaredu Iesu da

• Builth - Rhagluniaeth fawr y nef

• Cwm Rhondda - Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd

• Godre’r Coed - Tydi sy deilwng fyth o’m cân

• In Memoriam - Arglwydd Iesu, arwain f’enaid

• Llwynbedw - Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon

• Pantyfedwen - Tydi a wnaeth y wyrth O Grist Fab Duw

• Ebeneser - Dyma gariad fel y moroedd

• Rachie - I bob un sy’n ffyddlon

• Rhys - Rho im yr hedd

• Gwahoddiad - Mi glywaf dyner lais

• Mawlgan - Bendigedig fyddo’r Iesu

• Blaenwern - Tyred Iesu i’r anialwch

• Sirioldeb - Un fendith dyro im

• Bryn Myrddin - Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb

• Berwyn - Tyrd atom ni, O Grewr pob goleuni

• Sanctus - Glân geriwbiaid a seraffiaid

• Llef - O Iesu mawr rho d’anian bur

• Gweddi Wladgarol - Cofia’n gwlad Benllywydd tirion

Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu dosbarthu drwy’r post ac ar gael mewn siopau Cymraeg lleol. Gallwch hefyd bleidleisio ar wefan Dechrau Canu Dechrau Canmol. Gallwch hefyd bleidleisio drwy ffonio 02920 838137. Y dyddiad cau yw 17:00 ar ddydd Gwener 24 Chwefror.

Ar y panel fu’n dewis y rhestr fer o ugain emyn roedd yr arweinydd a’r cerddor Alun Guy; Allan Fewster, Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Sefydlog yr Eisteddfod Genedlaethol; Davida Lewis, arweinyddes Côr Waunarlwydd; a Margaret Daniel, arweinyddes Côr Merched Bro Nest a Chôr Pensiynwyr Aberteifi. Yn cadeirio roedd Robert Nicholls, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd.

“Roedd hi’n dasg anodd iawn i benderfynu ar ugain emyn yn unig,” meddai Robert Nicholls.

“Er bod y panel yn gytûn gan fwyaf, roedd ambell anghydweld ymhlith rhai aelodau o ran ambell dôn i fynd gyda’r geiriau, a rhai yn ffafrio ambell emyn yn fwy na’i gilydd. Ond yn y pendraw, roedd cytgord ar y cyfan.

“Roedd yn bwysig ein bod ni’n cynnig amrywiaeth o ran arddull yr emynau ac rydym yn gobeithio yn fawr y bydd rhywbeth at ddant bawb. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld ymateb y cyhoedd.

Mae croeso i chi fod yn y gynulleidfa ar gyfer y gymanfa ganu ar 2 Mawrth am 19:00 lle cewch ganu’r 12 emyn mwyaf poblogaidd yn ôl trefn y bleidlais, gan arwain at yr uchafbwynt sef Emyn i Gymru 2012.

Mae’r tocynnau ar gyfer y gymanfa yn rhad ac am ddim, a gellir trefnu bws ar gyfer grwpiau mawr. Os am archebu eich lle yn y gymanfa, cysylltwch ag Avanti ar 02920 838137.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?