S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rapsgaliwn a Mistar Urdd yn ennill yn Derry

19 Ebrill 2012

 Mae dau o gymeriadau plant poblogaidd wedi derbyn anrhydedd yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2012.

Daeth y cyfeillion, Rapsgaliwn a Mistar Urdd i’r brig yn y categori Ymgyrch Marchnata gyda’r

fideo newydd o’r gân Hei Mistar Urdd.

Roedd y fideo wedi ei chreu er mwyn hyrwyddo rhaglenni S4C o Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011, ac yn brosiect ar y cyd rhwng adran farchnata S4C, y cwmni cynhyrchu Boomerang a mudiad yr Urdd.

Mae Hei Mistar Urdd wedi bod yn anthem i genedlaethau o blant ers iddo gael ei ryddhau gyntaf yn 1976. Cyfanoddwr y gân wreiddiol oedd Geraint Davies, cyn aelod o’r grŵp gwerin Hergest a cherddor gyda Mynediad am Ddim. Ond mae’r fersiwn newydd yn rhoi blas yr 21ain ganrif i’r gân.

Gallwch wylio’r fideo ar You Tube.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Llongyfarchiadau i’r tîm sydd wedi derbyn y wobr hon yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2012 yn Derry.

“Mae derbyn y gydnabyddiaeth hon gan gynrychiolwyr y diwydiant yn yr holl wledydd Celtaidd yn goron ar waith rhagorol pawb oedd ynghlwm â chynhyrchu’r ymgyrch farchnata lwyddiannus.”

Meddai Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, “Mae’r Urdd yn llongyfarch S4C ar eu llwyddiant yn ennill y wobr yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, ac yn ymfalchïo yn y cydweithio helaeth sy’n digwydd rhwng y sianel a’r mudiad.

“Roedd yr hysbyseb a’r gân gynhyrchwyd llynedd gan ddefnyddio Rapsgaliwn a Mistar Urdd yn hynod boblogaidd ac wedi cyfrannu at lwyddiant Eisteddfod yr Urdd 2011.”

Bu canmoliaeth uchel gan y beirniaid i bob un o enwebiadau S4C yn yr ŵyl flynyddol sy’n cael ei chynnal eleni yn ninas Derry, Gogledd Iwerddon, rhwng dydd Mercher a Gwener 18-20 Ebrill.

I gloi’r ŵyl, bydd y brif wobr sef Ysbryd yr Ŵyl yn cael ei chyflwyno ar y nos Wener. Y llynedd, cyfres gyntaf Ras yn Erbyn Amser aeth â hi. Roedd y gyfres honno yn dilyn Lowri Morgan wrth iddi gymryd rhan mewn marathon yn yr Amazon.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?