S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn buddsoddi i ehangu darpariaeth Cymraeg i ddilynwyr gemau cyfrifiadurol

07 Awst 2015

Mae S4C a chwmni West Coast Software o Aberystwyth wedi cyhoeddi cynllun i ehangu'r ddarpariaeth iaith Gymraeg ar gyfer chwaraewyr gemau cyfrifiadurol, fydd yn gosod yr iaith fel sgil angenrheidiol yn y diwydiant datblygu gemau yng Nghymru.

Bydd cangen masnachol y darlledwr Cymraeg, SDML, a’r cwmni meddalwedd o Aberystwyth, yn ehangu'r ddarpariaeth gemau sydd ar gael ar blatfformau digidol S4C, ar wefan S+, gyda chynnwys sy'n apelio at gynulleidfa newydd - yn enwedig plant a phobl ifanc.

Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C; "Mae S4C yn weithgar wrth hybu dwyieithrwydd fel sgil allweddol yn y maes digidol yng Nghymru, ac i gynyddu'r gemau sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg. Bydd y buddsoddiad yma yn cynhyrchu gemau sy'n addas ar gyfer llwyfannau digidol S4C, yn cysylltu gyda chynnwys y sianel, ac yn apelio at gynulleidfa iau. Yn ogystal â darparu rhagor o gemau yn y Gymraeg, ar lwyfan S4C, bydd y diwydiant hefyd yn elwa drwy greu cynnwys sy'n gallu cael ei addasu i unrhyw iaith, a'r potensial i dyfu yn yr economi rhyngwladol."

Mae'r buddsoddiad yn y cwmni gan SDML, eisoes yn dwyn ffrwyth, gyda gemau newydd yn cael eu hychwanegu at wefan S+ yn fuan. Yn eu plith mae diweddariad iaith Gymraeg o'r gêm arcêd D/Generation, a gêm gyrru ceir rali sy'n cysylltu â'r gyfres foduro Ralio+.

Drwy gysylltu cynnwys y gemau gyda chynnwys ar y sgrin, mi fydd yn cyflwyno arlwy S4C i gynulleidfa ehangach, ac yn denu defnyddwyr newydd i wasanaethau'r sianel.

Dywedodd Huw Marshall, Pennaeth Datblygu Digidol S4C; "Mae'r gystadleuaeth i hawlio sylw'r gynulleidfa yn fwy ffyrnig nag erioed. Os yw S4C a'r iaith Gymraeg eisiau cael ei gweld a'i chlywed yng nghanol y dewis aruthrol o gynnwys adloniant - gemau, cynnwys ffurf fer, gwasanaethau ar alw - mae'n rhaid i S4C fod ym mhob man y mae'r gwylwyr eisiau ein gweld ni. Dyma pam ei fod yn allweddol fod S4C yn gallu parhau i gefnogi'r economi ddigidol, er mwyn addasu ar gyfer y dyfodol a darparu cynnwys sy'n apelio at gynulleidfa amgen. Bydd hyn yn allweddol os ydym am gryfhau'r Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol ar-lein, drwy weithgareddau digidol S4C."

Dywedodd Ken Bird, Prif Weithredwr West Coast Group, "Mae film, teledu, cerddoriaeth a gemau cyfrifiadurol oll yn cael eu cynnwys o fewn categori y diwydiant digidol gyda datblygu meddalwedd wrth galon hyn. Fel buddsoddwr a phartner busnes bydd S4C yn darparu adnoddau sydd ei hangen arnom i hyfforddi a datblygu y talentau israddedig gorau yma yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd cyffrous i ddatblygu gemau wedi selio ar gynnwys S4C."

Bydd y ddarpariaeth iaith Gymraeg ar y we, a'r gwaith mae S4C yn ei wneud i gefnogi'r sector gemau yng Nghymru, yn cael ei drafod ymhellach gan Huw Marshall, yn rhan o sgwrs banel ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Mae'r sgwrs banel Cymreigio'r We yn cael ei chynnal ar Stondin Mentrau Iaith Cymru, am 2.00 o'r gloch brynhawn Gwener 7 Awst. Yn rhan o'r drafodaeth mae Jo Golley, .cymru .wales; Iwan Williams, Mentrau Iaith Cymru; Gareth Morlais, Llywodraeth Cymru. Yn cadeirio mae Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360.

Ers rai blynyddoedd, bu S4C yn buddsoddi yn y diwydiant gemau yng Nghymru, yn cynnwys cyd-ariannu'r gêm gonsol gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg. Mae Enaid Colli (Master Reboot) ar gael ar gyfer PC, Mac, PlayStation 3 a Nintendo Wii U.

Mae S4C wedi cefnogi datblygu nifer o gemau sy'n cynnwys elfennau rhyngweithiol gyda chyfresi plant Ludus a Pyramid, hefyd gemau ar-lein Dirgelwch y Marcwis a Madron. Mae'r cyfan ar gael ar dudalen S+, ar wefan s4c.cymru

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?