S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn cyfres gyfnod uchelgeisiol

09 Ebrill 2013

Mae S4C yn chwilio am unigolion a theuluoedd i gymryd rhan mewn cyfres newydd, fydd yn golygu byw mewn plasty crand a blasu bywyd fel ac yr oedd ganrif yn ôl.

Cynhyrchiad gan Boom Pictures ar gyfer S4C ydy Y Plas, a bydd y gyfres gyfnod uchelgeisiol yn mynd a chriw o bobl yn ôl mewn amser i Gymru'r 1910au.

Ar Y Plas cawn flas ar fywyd mewn plasty crand Cymreig ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf wrth i'r criw dethol ymgartrefu ym Mhlas gogoneddus Llanerchaeron ger Aberaeron. Darlledir y gyfres ar S4C yn yr hydref, ond cyn hynny, mae angen pobl i lenwi'r plasty.

Mae'r cynnig i gymryd rhan yn agored i unigolion a theuluoedd o bob oed. Bydd y rhai sy'n cael eu dewis yn byw a gweithio mewn plasty bendigedig yng Nghymru am dair wythnos ym mis Medi eleni.

Allech chi fod yn forwyn, yn fwtler, neu'n gogydd? Neu beth am gamu i esgidiau'r Sgweier neu wraig y tŷ?

Dyma gyfle arbennig i wisgo, bwyta, gweithio a byw yn union fel ein cyndeidiau ym 1910, gyda'r camerâu yn dilyn pob cam er mwyn dod a'r holl hwyl a'r helbul i wylwyr y Sianel.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol ar gyfer S4C:

"Ryda ni'n edrych ymlaen yn fawr at ddod a chyffro'r cyfnod i S4C, rhoi profiadau gwych i'r rhai fydd yn cymryd rhan, a digon o adloniant i'r gwylwyr adre. Mi fydd yna raglen blant arbennig yn cyd-fynd a’r gyfres, a gwefan addysgiadol fydd yn dod a'r holl hanes yn fyw."

Mae llawer o edrych ymlaen ym Mhlas Llanerchaeron, ystâd fonedd o'r 18fed Ganrif sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Meddai Paul Boland, rheolwr y plas yn Llanerchaeron:

"Mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yma yn Llanerchaeron yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda S4C ar raglen Y Plas. Mi fydd yn gyfle i blas Llanerchaeron ddod yn fyw wrth i bobl fyw fel Edwardiaid go iawn.

"Mi fydd yn ddifyr gweld pa mor ddibynnol ydy pobl Cymru heddiw ar foethusrwydd modern. Cario dŵr, llosgi glo yn hytrach na defnyddio gwres canolog, popty trydan, a phethau mor syml a rhoi menyn ar dost - mae hyn yn golygu bod rhaid i rywun gorddi'r menyn a thylino'r toes. Mi fydd hi'n ddifyr iawn gweld sut maen nhw'n ymdopi gyda gweini ar bobl a chael pobl yn gweini arnyn nhw."

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â'r tîm cynhyrchu ar yplas@yplas.tv neu 02920 671540. Y dyddiad cau yw dydd Llun 13 Mai.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?