S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mwy o'r Gwyll ar y gweill – S4C yn cyhoeddi bod rhagor i ddod

21 Tachwedd 2013

Wrth i gyfres gyntaf o Y Gwyll / Hinterland ddod i ben ar S4C, mae'r Sianel wedi cyhoeddi bod gwaith wedi cychwyn ar gyfres newydd.

Fe ddaeth rhediad cyntaf DCI Tom Mathias ar y sgrin i ben heno (nos Iau 21 Tachwedd) mewn modd iasoer a dramatig – gan adael dilynwyr y gyfres yn awchu am ragor.

Ond gyda'r gyfres ar fin dechrau ymddangos ar rwydweithiau eraill sydd wedi prynu'r hawl i’w dangos, fe ddatgelodd Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd, bod y Sianel yn gweithio gyda’r cynhyrchwyr ar gynlluniau i ddod â rhagor o Y Gwyll i’r sgrin yn y dyfodol.

Meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd:

"Roedd Y Gwyll yn gyfres arbennig o dda ac mae'n amlwg o'r ymateb cyhoeddus bod pobl o Gymru a'r tu hwnt wedi ei gwerthfawrogi'n fawr iawn. Mae diwedd y gyfres ar S4C yn codi mwy o gwestiynau am hanes y ditectif enigmatig, a mwy o awydd i weld mwy. Wrth gwrs, ddweda' i ddim byd fyddai'n difetha'r profiad i'r holl bobl sydd wedi bod yn ei gwylio drwy wasanaeth ar alw S4C, Clic, ac sydd heb weld y diwedd eto.

"Dwi'n falch iawn ein bod ni'n gallu cadarnhau nawr bod y stori yn cael ei datblygu ymhellach ar hyn o bryd, a bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol o ran pryd y bydd y gynulleidfa yn gallu gweld hyn ar S4C.

"Er bod y gyfres wedi gorffen ar S4C, dyw hi ddim yn rhy hwyr i bobl gael gweld y gyfres yma o Y Gwyll– mae pob pennod ar gael ar Clic ar hyn o bryd, ond fyddan nhw ddim yno'n hir felly mae'r cloc yn tician."

Bydd modd gwylio dwy raglen ola'r gyfres gyda'i gilydd yn y bennod ddwbl am 9.00 nos Sul, 24 Tachwedd. Mae'r gyfres gyfan ar gael ar alw, ar-lein, ar Clic - s4c.co.uk/clic

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?