S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni a chymeriadau S4C yn ymuno yn hwyl Gŵyl Dinefwr

19 Mehefin 2014

Eleni am y tro cyntaf, bydd cyfle i gael blas ar rai o raglenni a chymeriadau S4C yng Ngŵyl Lenyddiaeth Dinefwr.

Mae'r Ŵyl dridiau a gynhelir ym Mharc a Chastell Dinefwr ger Llandeilo yn cynnig amrywiaeth eang o sesiynau a digwyddiadau, o gyfweliadau gyda beirdd ac awduron adnabyddus i berfformiadau cerddoriaeth a hyd yn oed wersi ioga. Ac eleni bydd cyfle i ymwelwyr yr Ŵyl fwynhau rhai o raglenni S4C hefyd.

Ar fore Sadwrn, 21 Mehefin am 10.30am yn yr ystafell sinema bydd cyfle i fynychwyr yr Ŵyl fwynhau dangosiad o Rhwng Gwên Nos Sadwrn a Gwg y Sul, rhaglen arbennig am y diweddar fardd Iwan Llwyd. Mae'r rhaglen yn cyfuno clipiau archif o Iwan yn darllen ei gerddi, a chyfweliadau diweddar gyda'i deulu a'i ffrindiau, er mwyn edrych yn ôl dros ei fywyd a'i waith, a'u dathlu.

Yn dilyn y dangosiad bydd Cenwyn Edwards yn holi’r cynhyrchydd Michael Bayley Hughes, ac un o gyfranwyr y rhaglen, Myrddin ap Dafydd, a fu’n rhannu ei atgofion am Iwan fel cyfaill a bardd.

Yna ddydd Sul, 23 Mehefin bydd sesiwn Y Gwyll yn cael ei chynnal yn yr ystafell fwyta. Bu'r gyfres dditectif yn hynod lwyddiannus yng Nghymru a thu hwnt pan y'i darlledwyd ar S4C y llynedd, a dyma gyfle i glywed Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, ynghyd â chynhyrchwyr y gyfres, Ed Thomas a Gethin Scourfield, yn trafod yr ymateb rhyfeddol i’r gyfres honno a chynlluniau cyffrous ar gyfer yr ail gyfres.

Bydd y ddau ddigwyddiad uchod yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael.

Bydd stafell sinema’r Ŵyl hefyd yn dangos Gerallt, ffilm ddogfen arbennig iawn a gipiodd brif wobr Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd yn gynharach eleni. Yn y ffilm ddogfen arbennig hon cawn gip ar fywyd personol a phreifat gŵr y geiriau, Gerallt Lloyd Owen, a hynny yn ei eiriau ei hun.

Heb anghofio am y rhai bach. Ar ddydd Sadwrn, 21 Mehefin bydd Môr Leidr poblogaidd gwasanaeth Cyw, Ben Dant, yn cynnal dwy sesiwn i ddiddanu'r plant iau. Am 10.30am ac eto am 2.00pm yn Yr Hen Olchdy bydd Ben Dant yn chwarae gêm taro'r coco, yn canu cân y môr ladron ac wrth gwrs, yn chwilio am drysor.

Cadwch lygad allan am Superted a Sali Mali hefyd; bydd y ddau yn crwydro o amgylch yr Ŵyl ar y dydd Sadwrn gan roi cyfle i blant gael tynnu eu llun gyda nhw.

Meddai Catrin Hughes Roberts, Pennaeth Partneriaethau yn S4C:

 

"Rydym ni'n falch iawn o'r cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru wrth iddyn nhw gynnal Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr am yr ail dro. Mae'n braf cael dangos a thrafod peth o gynnwys llenyddol a chreadigol S4C efo'r gynulleidfa ac i rannu rhai o'r straeon y tu ôl i greu ac ysgrifennu rhai o'r llwyddiannau diweddar fel Y Gwyll. Gyda Ben Dant a chymeriadau Cyw hefyd yn ymweld â'r Ŵyl, rydym yn falch o allu cynnig rhywbeth i'r teulu oll."

Am amserlen lawn a rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl ewch draw i http://www.dinefwrliteraturefestival.co.uk/cy

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?