S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Kliph Scurlock yn perfformio ym mhafiliwn S4C yn yr Eisteddfod

04 Awst 2014

 Heddiw gall S4C gyhoeddi y bydd Kliph Scurlock, cyn-ddrymiwr y band seicadelic o Oklahoma, The Flaming Lips, yn perfformio gyda Gruff Rhys ym mhafiliwn S4C ar faes yr Eisteddfod.

Ar brynhawn Iau'r Brifwyl, ym mhafiliwn S4C am 4.30, bydd Gruff Rhys yn cyflwyno ei brosiect aml-blatfform diweddaraf, American Interior. Mae'r prosiect uchelgeisiol yn cynnwys ffilm Gymraeg o'r enw I Grombil Cyfandir Pell - American Interior, fydd yn cael ei dangos gyntaf ar S4C ym mis Medi.

Yn ystod y cyflwyniad American Interior bydd Gruff yn perfformio rhai o ganeuon ei albwm diweddaraf sy'n un rhan o'r prosiect, a bydd y drymiwr byd-enwog Kliph Scurlock yn ymuno â Gruff ar gyfer y set.

Mae Gruff a Kliph yn ffrindiau ers blynyddoedd ac wedi perfformio gyda'i gilydd nifer o weithiau. Mae'r drymiwr o Kansas, America, yn hoff iawn o Gymru ac yn ffan mawr o nifer o artistiaid Cymreig, a dyma'r tro cyntaf iddo fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Rydw i tu hwnt i gyffrous am gael chwarae yn yr Eisteddfod, ond yn fwy na hynny, dwi'n methu aros i gael y profiad o fod yno," meddai Kliph. "Mae teulu ochr fy nhad yn dod o Gymru yn wreiddiol ac mae'n rhaid bod y Cymreictod yn fy ngwaed gan fy mod i yn caru'r iaith, y bobl a'r traddodiadau. Ac mae rhywbeth am y gerddoriaeth a ddaw o Gymru sy'n cyffwrdd fy enaid yn fwy na cherddoriaeth o unrhyw wlad arall. Rydw i wedi treulio'r tridiau diwethaf yn crwydro o amgylch Caerdydd a dwi byth eisiau gadael. Cymru am byth!"

Peidiwch â cholli perfformiad byw Kliph Scurlock a Gruff Rhys am 4.30, prynhawn Iau 7 Awst ym mhafiliwn S4C ar faes yr Eisteddfod.

I glywed mwy am brosiect American Interior ewch i www.american-interior.com/cy/

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?