S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi cystadleuaeth newydd i gorau ysgolion cynradd dan ymbarél Côr Cymru 2015

04 Gorffennaf 2014

   Mae S4C a'r cwmni cynhyrchu Rondo Media wedi agor cystadleuaeth Côr Cymru 2015 ac yn gwahodd corau Cymreig i gystadlu am y tlws anrhydeddus sy'n cael ei gwobrwyo bob dwy flynedd - gyda phrif wobr o £4,000 i'r buddugol.

Ac ar yr un pryd, mae'r trefnwyr yn agor cystadleuaeth newydd sbon ar gyfer corau ysgolion cynradd. Bydd Côr Cymru Cynradd 2015 yn cynnig gwobr o £500 i'r côr buddugol, a £100 i bob côr sy'n cyrraedd y rownd derfynol.

Bwriad sefydlu Côr Cymru Cynradd 2015, yn ôl un o drefnwyr y gystadleuaeth, Gwawr Owen o gwmni Rondo Media, yw ymestyn dylanwad cystadleuaeth Côr Cymru ymhlith cantorion iau.

Meddai Gwawr Owen, "Bob tro y cynhelir Côr Cymru mae safon y corau plant yn rhagorol ac yn wir mae côr plant wedi ennill y brif wobr ddwy waith yn hanes y gystadleuaeth. Drwy wahodd ysgolion academaidd yn unig, bwriad Côr Cymru Cynradd 2015 yw rhoi cyfle i ragor o blant brofi gwefr cystadlu ar lwyfan tebyg i Côr Cymru."

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yn Côr Cymru Cynradd 2015 yw dydd Mercher 1 Hydref, 2014. Mae hon yn gystadleuaeth ar gyfer ysgolion cynradd academaidd yn unig – nid oes hawl i ysgolion theatr nag ysgolion perfformio gystadlu.

Ond fe fydd gan ysgolion theatr, ysgolion perfformio a chorau o ysgolion cynradd ac uwchradd yr hawl i gystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2015, ble mae pum categori:

• Corau Plant 16 oed ac iau

• Corau Ieuenctid o dan 25 oed

• Corau Cymysg

• Corau Merched

• Corau Meibion

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yn Côr Cymru 2015 yw dydd Mercher 1 Hydref 2014; ar wahân i'r Corau Ieuenctid sydd â'r dyddiad cau ar ddydd Mercher 8 Hydref 2014, i ystyried tymor colegau.

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Adloniant S4C, "Erbyn hyn, mae Côr Cymru wedi hen ennill ei phlwy’ fel cystadleuaeth o safon uchel iawn, ac yn deitl y mae corau yn awyddus iawn i'w hennill. Beth sy'n gyffrous am gyflwyno Côr Cymru Cynradd y tro hwn yw ein bod ni'n ymestyn y cyfle i'r cantorion ieuengaf brofi gwefr cystadleuaeth newydd sbon sy'n arbennig ar eu cyfer."

Mae dolenni ar gyfer yr Amodau a'r Telerau, ac ar gyfer y Ffurflen Gais, ar gael ar s4c.co.uk/corcymru. Am ragor o fanylion cysylltwch â corcymru@rondomedia.co.uk neu ffonio Rondo Media ar 02920 223 456

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?