S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tri Aelod Newydd o Awdurdod S4C

08 Gorffennaf 2014

Mae DCMS wedi cyhoeddi bod 3 aelod newydd o Awdurdod S4C wedi’u penodi – Guto Harri, Siân Lewis a Hugh Hesketh Evans.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones:

“Hoffwn groesawu Guto, Siân a Hugh yn gynnes iawn fel aelodau newydd o Awdurdod S4C. Mae eu doniau unigol yn ein galluogi i gynnwys safbwyntiau amrywiol yn ein holl drafodaethau. Mi fydd y blynyddoedd nesaf yn rhai tyngedfennol i S4C, felly rydym yn falch iawn o allu dweud unwaith eto bod gennym bobl dalentog iawn sydd yn awyddus i gyfrannu o’u hamser a’u profiad er mwyn dyfodol gwasanaethau teledu yn yr iaith Gymraeg.”

Cewch ragor o fanylion ar wefan DCMS - https://www.gov.uk/government/news/sajid-javid-appoints-3-new-trustees-to-s4c

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?