S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gwyll yn y Gymraeg yng Ngwlad Belg

14 Gorffennaf 2014

Gwylwyr yng Ngwlad Belg fydd y cyntaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig i weld cyfres dditectif fawr S4C, Y Gwyll/Hinterland, yn yr iaith Gymraeg.

Ar nos Lun 14 Gorffennaf, bydd y bennod gyntaf yn cael ei dangos ar sianel Canvas, rhan o rwydwaith y darlledwr VRT, i ddechrau wythnos arbennig o ddramâu trosedd ar y sianel. Bydd y gyfres gyfan yn cael ei darlledu gan Canvas yn hwyrach yn y flwyddyn.

I nodi'r darllediad Cymraeg tramor cyntaf, mae noson première arbennig yn cael ei chynnal yng Nghartref Swyddogol Llysgennad y DU ym Mrwsel.

Mae'r première wedi ei threfnu gan y darlledwyr VRT yng Ngwlad Belg, mewn cydweithrediad ag S4C, Llywodraeth Cymru ac All3Media International.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Mae hon yn garreg filltir bwysig yn stori llwyddiant Y Gwyll/Hinterland. Fel comisiynydd a darlledwr gwreiddiol Y Gwyll/Hinterland mae S4C ynghyd â'n partneriaid wedi gweithio'n galed i greu cynnyrch fyddai’n apelio at gynulleidfa eang yng Nghymru yn y lle cyntaf ond a fyddai hefyd â’r potensial i apelio at gynulleidfa ehangach y tu hwnt i Gymru a’r Deyrnas Unedig.

“Mae'r darllediad Cymraeg cyntaf hwn o’r cynhyrchiad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn dangos bod modd i ddrama o’r ansawdd uchaf - o’r sgriptio a chynllunio stori i’r actio a’r cynhyrchu - groesi unrhyw ffin.

"Rydym yn gobeithio y bydd gwylwyr Canvas yn ei mwynhau nid yn unig am ei straeon ond hefyd yn mwynhau diwylliant ac iaith unigryw a fydd o bosib yn gwbl newydd iddyn nhw."

Mae Y Gwyll/Hinterland yn gynhyrchiad gan Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, Tinopolis, BBC Cymru Wales, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International.

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd y dosbarthwyr All3Media International werthiannau diweddaraf y gyfres ar draws y byd. Yn eu plith, roedd dau ddarlledwr fydd yn dangos y fersiwn Gymraeg gwreiddiol sef DIZALE yn Llydaw a sianel Canvas yng Ngwlad Belg.

Ar y rhestr hefyd roedd 12 o diriogaethau eraill yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, Norwy, a hefyd yr UDA, Canada a Sgandinafia drwy wasanaeth Netflix.

Ar hyn o bryd, mae ail gyfres Y Gwyll/Hinterland yn cael ei pharatoi, gyda'r gwaith ffilmio yn dechrau yng Ngheredigion Cymru ym mis Medi, 2014.

Diwedd

Nodiadau:Ym mis Mai, 2014, cyhoeddwyd gwerthiannau rhyngwladol Y Gwyll/Hinterland hyd yma. Gweler y cyhoeddiad yn llawn yma - http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=922

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?