S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Profiad, brwdfrydedd a chariad... ffermwyr 2014 yn barod am her eithaf y buarth

21 Gorffennaf 2014

  Ymhlith y deg o ffermwyr sy'n camu i ffau Fferm Ffactor 2014 mae cwpwl ifanc o orllewin Cymru, sydd yn barod i gystadlu yn erbyn ei gilydd ac wyth ffermwr arall, i hawlio teitl ffermwr gorau Cymru a'r wobr fawr; y pic-yp Isuzu D-Max Yukon.

Pan fydd y gyfres yn dychwelyd i S4C yn yr hydref, mi fydd y cariadon o Geredigion - Angharad James, 23, o Lanwnnen, a Rhys Lloyd Jones, 22, o Dregaron - yn gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd. Ond, fel aelodau o Glybiau Ffermwyr Ifanc gwahanol, maen nhw wedi hen arfer â gwneud hynny.

Meddai Rhys, o fferm Ystrad Dewi a Chadeirydd CFfI Llanddewi Brefi, “Mae Angharad a minnau wedi cystadlu yn erbyn ein gilydd mewn cystadlaethau’r Ffermwyr Ifanc. Ry' ni’n eitha' cystadleuol, a dyna shwt fyddwn ni ar Fferm Ffactor hefyd.”

Ond mae Angharad, o fferm Castell Du sy'n aelod o CFfI Pontsian, yn gobeithio y byddan nhw'n gefn i'w gilydd, “Dwi’n gwybod bydd 'na dipyn o rivalry rhyngof i a Rhys, ond rwy’n gwybod hefyd byddwn ni’n helpu’n gilydd i allu 'neud yn well.”

Rhaid i'r ddau beidio â phryderu gormod am gystadlu yn erbyn ei gilydd, oherwydd mae wyth ffermwr arall yn barod i ddwyn y teitl. Gyda'r ieuengaf yn 20 oed a'r hynaf yn 54 oed, a fydd profiad yn trechu brwdfrydedd yr ifanc eleni?

Yr ieuengaf yn eu plith yw Gethin Eifion Jones, fferm Tŷ Hir Werddon, Rhosfawr ger Pwllheli. Yn was ar fferm laeth a fferm wartheg a defaid, mae Gethin hefyd yn rhedeg busnes coed tân.

Meddai Gethin Eifion, “Mae 'na lot o bethe sydd angen i mi eu gwneud a’u dysgu a dim ond amser 'neith hynny. Ond 'sa hynny’n altro'n gynt taswn i’n rhoi fy mhen mewn ambell lyfr yn lle mynd allan i dorri coed bob munud!”

Gethin Lloyd, o Abergorlech, Sir Gâr yw ffermwr hynaf yn y grŵp eleni. Yn 54 oed, mae ganddo brofiad helaeth o gystadlu mewn sioeau gyda'i wartheg Simmental Pur. Mae'r profiad yma wedi ei argyhoeddi fod arddangos cynnyrch yn gwbl hanfodol i'r diwydiant.

Meddai Gethin Lloyd; “Mae dawn arddangos dda yn grefft arbennig. Mae’n ffenest i'r hyn ni’n cynhyrchu, a ni’n dysgu llawer drwy fod yn y sioeau.”

Ynghyd ag Angharad, Rhys, Gethin Eifion a Gethin Lloyd y chwech arall sy'n herio am y teitl eleni yw: Tudur Jones, 49, Tŷ’n Rhos, Pentrefoelas; Shôn Endaf Edwards, 43, Bryn Barcut, Llangernyw; Tudor Roberts-Watkins, 32, Creigfryn, Carno; Delyth Mair Williams, 24, Llanerchaeron, Ciliau Aeron; Wil Davies, 29, Fferm Tŷ Canol, Llanybri; Roy Edwards, 37, Fferm Groesasgwrn, Llangyndeyrn.

Ac nid y cystadleuwyr yn unig fydd yn camu i'r ffau am y tro cyntaf, oherwydd eleni mae wyneb newydd yn arwain y gyfres.

Y cyflwynydd teledu a radio, a'r mab fferm o Dregaron, Ifan Jones Evans fydd yn cyflwyno Fferm Ffactor 2014, ac yn gwmni iddo mae'r ddau feirniad llym: y ffermwr Aled Rees a'r Athro Wynne Jones.

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref. Am ragor o wybodaeth am y ffermwyr, ewch i s4c.co.uk/ffermffactor

Gallwch gadw mewn cysylltiad ar Facebook - facebook.com/ffermffactor - a dilyn y tîm ar Twitter @FfermFfactor

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?