S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn torri tir newydd gydag ap i ddangos y gwasanaeth ar ei orau

04 Awst 2014

  Mae S4C wedi arddangos ei harf diweddara i ddangos y gwasanaeth ar ei orau - sef ap S4C Realiti.

Mae ap S4C Realiti yn gweithio ar ddyfeisiadau symudol iOS ac Android, a thrwy bwyntio'r ddyfais at ddelwedd benodol mae'n dangos fideo ar y sgrin fel pe bai'n ymddangos yn y ddelwedd.

Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn dal i gael ei ddatblygu ar y cyd a chwmni Spectre sydd wedi gwneud y gwaith datblygu cyfrifiadurol. Ond bydd modd i chi fod ymhlith y cyntaf i brofi'r ap newydd ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Yn ôl Rheolwr Digidol S4C, Huw Marshall, nod y gwaith yw galluogi'r sianel i arddangos ei chynnwys ar ei gorau, drwy luniau fideo a graffeg ychwanegol.

Meddai Huw Marshall: "Mae'r ap newydd yn caniatáu S4C i gynnig haen newydd gyffrous i’n cynnwys ac yn gweddnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu â'n gwylwyr, drwy gynnig lluniau symudol lle rydym wedi arfer â gweld llun llonydd. Gallai gynyddu’n gallu i ddenu pobl at ein cynnwys boed hynny ar y teledu neu ar ein gwefan s4c.co.uk.

"Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu'r dechnoleg yma – ac rydym yn gallu gweld potensial ehangach ynddi hefyd. Rydym yn falch iawn o'r cyfle i arddangos ein gwaith cychwynnol ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon, ac yn gobeithio datblygu ein cynlluniau dros y misoedd nesaf."

Hefyd yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg bydd modd i chi chwarae tair gêm gyfrifiadur Gymraeg sydd wedi eu datblygu gyda chefnogaeth S4C:

• Enaid Coll - gêm gonsol gyntaf yr iaith Gymraeg sydd ar gael ar gyfer PS3; Steam, ar gyfer PC a Mac; ac yn fuan ar gyfer WiiU.

• Dirgelwch y Marcwis: Trysor Coll - Gêm bos gudd newydd, y gyntaf yn yr iaith Gymraeg, fydd ar gael yn hwyrach eleni.

• Pyramid - ap gemau i gyd-fynd â chwis aml-blatfform newydd ar Stwnsh

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?