S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn arwyddo cytundeb hanesyddol gyda sianel yn Ne Corea

23 Gorffennaf 2014

Mae S4C wedi arwyddo Cytundeb o Fwriad i gydweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau gyda sianel JTV yn Ne Corea.

Dyma’r tro cyntaf i’r darlledwr S4C a’r cwmni cynhyrchu o Gaernarfon, Awen Media a Rondo Media, gydweithio mewn partneriaeth gyda darlledwr o Dde Corea.

Bydd y cynhyrchwyr o Gymru yn dechrau ffilmio tair rhaglen ddogfen yn Ne Corea ym mis Medi.

Mae’r cydweithio wedi dod yn bosibl drwy gydweithrediad a thrafodaethau gyda’r cwmni The Bridge, cwmni annibynnol ac arloesol sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia.

Bydd un rhaglen ddogfen yn olrhain hanes y cenhadwr Robert Jermain Thomas yn ne Corea a dwy raglen arall yn edrych ar rôl pobl Cymru yn Rhyfel Corea.

Mae’r cynyrchiadau yn cael eu cydariannu gan S4C a JTV.

Meddai Comisiynydd Cynnwys S4C, Llion Iwan, “Mae’r cytundeb o fwriad yn arwydd o ymroddiad y ddau ddarlledwr i greu dolen ddiwylliannol, gyffrous a fydd yn arwain at raglenni a fydd yn hwb i’r diwydiannau creadigol ar ddau gyfandir.

“Mae’r cydweithio creadigol yma’n torri cwys newydd inni fel darlledwr trwy ein partneru ag un o wledydd pwysicaf Asia. Mae eisoes wedi arwain at ddatblygu tri syniad hynod ddifyr a’r gobaith yw y daw mwy yn ei sgîl. Mae cynyrchiadau fel y gyfres ddrama Y Gwyll eisoes ar fap y byd. Fe all cydweithio gyda The Bridge a theledu JTV ehangu’n cynyrchiadau yn fwy fyth.”

Yn ôl Jeong, Hee cynhyrchydd o JTV, De Corea, fe fydd y bartneriaeth o fantais i’r ddwy wlad ac yn gyfle i Gymru a De Corea gael cipolwg ar ddiwylliannau a hanes ei gilydd.

Meddai Jeong, Hee JTV. “Mae JTV a Jeong, Hee Do wrth ein boddau cael cydweithio gyda chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Awen Media a Rondo Media a gyda’r darlledwr S4C. Mae’n gyfle i ddod â’r holl straeon oriau anghyffredin a phwysig hyn at ei gilydd, hanesion sydd yn hynod bwysig ac yn sicr o fod o diddordeb eang i gynulleidfa newydd.”

Amanda Groom yw Rheolwr Gyfarwyddwr The Bridge, cwmni a ffurfiwyd gyda chefnogaeth cwmni cynhyrchwyr byd-eang Argonon, er mwyn pontio cwmnïau Prydain â chynhyrchwyr yn Asia.

Meddai Amanda Groom, “Rydym wrth ein boddau i gael derbyn cadarnhad o fuddsoddiad rhaglen a chyfres o Dde Corea, gan ddod a chynyrchiadau arloesol a chynhyrfus rhwng dau gynhyrchydd Cymreig, Rondo Media ac Awen Media a JTV, y cynhyrchwyr o Dde Corea, canlyniad y partneriaethau yma yw bod mwy o storiâu Cymreig yn cael eu darlledu i gynulleidfa S4C”.

Bydd y rhaglen ddogfen am R J Thomas yn cael ei chynhyrchu ar y cyd rhwng sianel Awen Media a sianel JTV yn Ne Korea.

Bydd ‘Y Rhyfel Angof’ yn cael ei chynhyrchu gan Awen Media a’r ‘Milwr Cymreig’ yn cael ei chynhyrchu gan Rondo Media, ar gyfer S4C a sianel JTV yn Ne Corea.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?