S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

O America i'r Maes - Gruff Rhys ym mhafiliwn S4C

28 Gorffennaf 2014

O America i'r Maes - Gruff Rhys ym mhafiliwn S4C

Am 4.30pm, dydd Iau, 7 Awst, ym mhafiliwn S4C ar faes yr Eisteddfod, bydd cyfle i glywed y canwr enwog Gruff Rhys, yn canu ac yn sôn am ei brosiect aml-blatfform diweddaraf, I Grombil Cyfandir Pell - American Interior. Mae’r prosiect uchelgeisiol yn cynnwys ffilm Gymraeg fydd yn cael ei dangos gyntaf ar S4C.

Mae’r prosiect yn adrodd hanes John Evans, gwas fferm o Waun Fawr yng Ngwynedd aeth i America ym 1792. Pwrpas ei daith oedd darganfod a oedd llwyth o ddisgynyddion Tywysog Madog yn dal i fyw yno ac yn siarad Cymraeg. Hynny, a'i fod eisiau ennill bet a wnaeth efo neb llai na Iolo Morgannwg.

Teithiodd John, yn ddwy ar hugain oed, trwy gyfandir gwyllt yr Amerig o Baltimore bob cam at gynefin llwyth y Mandaniaid yn nhalaith Gogledd Dakota (fel y gelwir hi heddiw).

Yn 2012 cychwynnodd Gruff Rhys ar yr un daith yn union er mwyn olrhain hanes rhyfeddol ei berthynas bell. Enw'r Daith Gyngerdd Archwilgar oedd I Grombil Cyfandir Pell - American Interior.

Mae pedair rhan i’r prosiect aml-blatfform, pedair ffordd i gael y profiad o chwilio am lwyth coll. Felly i gael y profiad cyflawn mae modd dod i weld Gruff yn perfformio cyn darllen y llyfr, gwrando ar yr albwm, lawrlwytho'r ap a gwylio’r ffilm fydd yn cael ei dangos ar S4C yn ddiweddarach eleni. I gael gwybod mwy a lawrlwytho'r ap ewch i www.igrombilcyfandirpell.com

Ym mhafiliwn S4C (4.30pm, dydd Iau, 7 Awst) bydd Gruff yn dod â Chrombil Cyfandir Pell yn fyw gyda sioe sleidiau, sgwrs a chaneuon o'i albwm diweddaraf o'r un enw. Byddwch yn barod i fynd i grombil gwyllt y cyfandir pell.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C:

"Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at gael Gruff yn perfformio ym mhafiliwn S4C yn y Steddfod, gan roi blas i ni o'i brosiect cynhwysfawr a chyffrous, American Interior. Mae'r ffilm, fydd i'w gweld ar S4C ym mis Medi eleni yn cwmpasu nifer o themâu, o Gymreictod, hunaniaeth a hanes llwythi cyntefig America i berthynas Cymru â'r byd. Mae hi hefyd wrth gwrs yn llawn o ganeuon unigryw Gruff felly mae hi wir yn wledd i'r synhwyrau."

Mae Gruff eisoes wedi perfformio’r sioe hon ledled Prydain a bydd yn mynd a hi ar daith i America ddiwedd y flwyddyn felly manteisiwch ar y cyfle i weld y dyn ei hun ar faes y Steddfod, a hynny yn rhan ac am ddim.

Bydd fersiwn Gymraeg y ffilm, I Grombil Cyfandir Pell – American Interior yn cael ei dangos ar S4C ym mis Medi.

Diwedd

Nodiadau

Am flas o'r antur gwyliwch hwn - https://www.youtube.com/watch?v=6GcXgD3AE_E

I weld amserlen lawn o ddigwyddiadau S4C ar y maes ewch i www.s4c.co.uk/caban

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?