S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddion da i ddilynwyr rygbi Cymru wrth i ddarlledwyr gyhoeddi cytundeb Pro12 pedair blynedd

30 Gorffennaf 2014

Bydd dilynwyr rygbi yng Nghymru yn gallu mwynhau gemau Guinness Pro12 yn rhad ac am ddim y tymor nesaf ar ôl i S4C a BBC gyhoeddi cytundeb hawliau pedair blynedd newydd.

Bydd y darlledwyr yn rhannu gemau dros y tymor cyfan, gan sicrhau bod cefnogwyr ledled Cymru yn gallu gwylio holl gyffro gemau’r rhanbarthau yn fyw ar deledu daearol. Bydd BBC Cymru Wales yn dangos gemau Nos Wener ar Scrum V Live, a S4C yn dangos gemau ar brynhawniau Sul ar Clwb Rygbi.

Bydd cystadlu’r Pro12 yn fwy ffyrnig y flwyddyn nesaf gyda chanlyniadau’r diwedd tymor yn pennu a fydden nhw’n cyrraedd Cwpan y Pencampwyr Rygbi ai peidio.

“Rydym yn falch iawn o gael cryfhau ein perthynas gyda BBC Cymru Wales a S4C,” meddai John Feehan, Prif Weithredwr Pro12 Rugby. “Gyda Guinness bellach yn noddi’r bencampwriaeth, rydym yn edrych ymlaen at weld y gystadleuaeth yn tyfu, gyda’n holl ddarlledwyr a’n clybiau yn denu cynulleidfaoedd mwy a rhagor o ddilynwyr.”

"Bydd rheolau newydd ar gyfer Ewrop yn sicrhau cynnwrf ychwanegol y flwyddyn nesaf, gan wneud y gystadleuaeth Pro12 yn gystadleuaeth na fedr dilynwyr rygbi ei cholli,” dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales Rhodri Talfan Davies. “Rydym wedi setlo ar fargen dda â Rygbi Celtaidd sy’n sicrhau fod pob dilynwr rygbi yng Nghymru yn cael yr olwg orau posib ar y digwyddiadau.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, “Rydw i’n teimlo balchder mawr wrth gyhoeddi bod S4C unwaith eto wedi sicrhau bod rygbi rhanbarthol Cymru ar gael i’w wylio’n fyw ar deledu heb yr angen i danysgrifio. Bydd gemau Cynghrair Guinness y Pro12 yn un o gonglfeini’r rhaglen Clwb, gwasanaeth newydd chwaraeon S4C ar brynhawniau Sul. Drwy gydweithio mae S4C a BBC Cymru Wales wedi llwyddo i sicrhau y bydd rygbi rhanbarthol yn parhau i fod ar gael i bawb yng Nghymru.”

Diwedd

Dyma ddatganiad ar y cyd rhwng Adran Gyfathrebu BBC Cymru Wales ac Adran Gyfathrebu S4C.

29.07.14

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Stephen Morgan yn Adran Gyfathrebu BBC Cymru Wales ar 029 2032 2026 / 07912583461 / stephen.morgan@bbc.co.uk neu Glesni Haf Jones yn Adran Gyfathrebu S4C ar 02920 741422 / glesni.jones@s4c.co.uk

Nodiadau i olygyddion

Bydd rhaglenni Scrum V Live ar BBC Cymru Wales a Clwb Rygbi ar S4C yn darlledu un gêm ym mhob rownd o’r gystadleuaeth ar gyfer gemau 1-22. Bydd Sky Sports hefyd yn darlledu gemau ar Sadyrnau.

Os yw rhanbarthau Cymru yn ennill lle yn y rowndiau cynderfynol a’r rownd derfynol, bydd yr hawliau ar gyfer y gemau hyn yn cael eu rhannu rhwng y darlledwyr.

Mae llun ar gael:

https://myshare.box.com/shared/static/ypbcvaf3nxmp451w84wi.jpg

Yn y llun: Jon Davis, Rygbi Pro12; Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?