S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwerin gyfoes a trip pop - Jess Hall yng nghaffi Maes B

01 Awst 2014

Yn yr Eisteddfod, ar ddydd Gwener 8 Awst am 12.00, bydd Jess Hall yn perfformio set acwstig mewn sesiwn Ochr 1 yng Nghaffi Maes B.

Er iddi gael ei geni yng Nghaerdydd, magwyd Jess yn Llandrindod gyda'i thad sy'n Gymro a'i mhâm sy'n Americanes.

Mae Jess yn canu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn chwarae piano a harmoniwm, ac yn rhannu'r llwyfan gyda'r cerddor Noel Doak, sy'n chwarae bas dwbl, offerynnau taro, ac yn dolennu cerddoriaeth yn fyw (live looping).

Mae hi'n edmygu ystod eang o gerddorion, ac yn rhestru Bjork, Tom Waits, PJ Harvey a cherddoriaeth werin draddodiadol Gymraeg fel artistiaid ac arddulliau sydd wedi dylanwadu arni.

Cafodd EP gyntaf Jess, Glas Oren, ei ryddhau ym mis Ebrill eleni. Cynhyrchwyd yr EP gan Charlie Francis sydd wedi gweithio gydag artistiaid adnabyddus fel REM a The Noisettes. Mae Glas Oren yn rhoi blas o arddull gerddorol Jess sy'n cael ei ddisgrifio fel gwerin gyfoes gyda dylanwadau trip pop.

Yn dilyn y perfformiad yng Nghaffi Maes B bydd Griff Lynch, cyflwynydd cyfres gerddoriaeth Ochr 1 ar S4C yn holi'r gantores, ac mae'n amlwg yn dipyn o ffan.

"Mae Jess Hall yn chwa o awyr iach i Gerddoriaeth Gymraeg," meddai Griff, sydd yn gerddor ei hun ac yn aelod o'r band, Yr Ods. "Mae 'na rywbeth am ei harddull jazz/pop sy'n g'neud i fi deimlo mod i yn Nwyrain Ewrop yn rhywle."

I glywed Jess Hall yn perfformio ei chân Criwch Ddim ar Ochr 1, ewch i http://jess-hall.com/2014/07/31/criwch-ddim-on-s4cs-ochr-1/

Cynhelir y sesiwn hon fel rhan o weithgareddau S4C ar faes yr Eisteddfod. I gael cip ar ragor o'r digwyddiad y bydd S4C yn eu cynnal gydol y wythnos ewch i www.s4c.co.uk/caban

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?